Mae Cymdeithas yr Iaith yn lansio ymgyrch newydd heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 19) i wneud y Gymraeg yn brif iaith chwaraeon yng Nghymru.

Bydd yr ymgyrch yn rhoi sylw i fyd y campau ar bob lefel, o wersi cymunedol i ornestau pêl-droed a rygbi rhyngwladol.

Caiff y lansiad ei gynnal am 4 o’r gloch mewn cyflwyniad ar y we sy’n rhan o’r Eisteddfod AmGEN.

Bydd yr ymgyrch yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

  • symud at ddysgu chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol
  • rhoi pwysau ar gyrff chwaraeon cenedlaethol i drefnu mwyafrif o gyrsiau hyfforddi yn Gymraeg a’u gweinyddu’n ddwyieithog

Yn ystod y lansiad, bydd y cyflwynydd Dylan Ebenezer yn holi’r tiwtor ioga Laura Karadog, rheolwr Canolfan Hamdden Llandysul Matthew Adams, Nia Peris o’r byd seiclo yng Ngheredigion a Ceri Cunnington, trefnydd gweithgareddau awyr agored yn ardal Blaenau Ffestiniog.

I gyd-fynd â lansio’r ymgyrch, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ymgyrch e-bost ar eu gwefan sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu eu gofynion.

Menter Datblygu Wledig

Daw’r lansiad ar ddechrau’r hyn ddylai fod yn Wythnos Sioe Llanelwedd.

Bydd y Gymdeithas yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Hybu Mentrau Cymunedol ym maes hamdden.

“Nid yn unig ein bod am sicrhau fod pobol yn mwynhau hamdden a chwaraeon yn Gymraeg, ond rydyn ni hefyd eisiau defnyddio adnoddau naturiol Cymru i greu gwaith i Gymry ifainc yn eu cymunedau,” meddai Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith, fydd hefyd ar y panel trafod.