Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod e’n edrych ymlaen at y frwydr “â’r hen elyn i lawr y ffordd” nos Fercher (Gorffennaf 22).

Yr Adar Gleision ac Abertawe fydd yn brwydro am y lle olaf yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ar ddiwrnod olaf tymor y gynghrair.

Caerdydd sydd yn y sefyllfa gryfaf, gyda phwynt yn erbyn Hull yn ddigon i sicrhau’r lle, tra bydd rhaid i Abertawe guro Reading oddi cartref, a gobeithio bod yr Adar Gleision yn colli.

“Mae’n frwydr uniongyrchol rhyngom ni a’r hen elyn i lawr y ffordd,” meddai.

“Ni sydd yn y sefyllfa orau, ac yn haeddiannol felly.

“Dros y 45 gêm, rydyn ni’n haeddu bod yno.

“Ar ddiwedd 46 gêm, bydd pwy bynnag sydd yn y chweched safle neu’r pumed safle yn haeddu bod yno.”