Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd a’u gwrthwynebwyr yn y gynghrair wedi cyhoeddi cynllun i ddychwelyd erbyn mis Rhagfyr yn dilyn ymlediad y coronafeirws.

Y gobaith yw y bydd modd cynnal gemau paratoadol ym mis Tachwedd, gyda’r tymor cystadleuol yn dechrau gyda phenwythnos y ‘Magic 5’ ar Ragfyr 5 a 6.

Byddai’r tymor cyffredin yn dod i ben ar Fai 1-2, gyda gemau wyth ola’r gemau ail gyfle i ddilyn, a rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Nottingham ar Fai 15-16.

Mae disgwyl i gyfarfod gael ei gynnal ym mis Medi i lunio’r amserlen derfynol.

Mae disgwyl i holl dimau’r gynghrair gystadlu, ac mae’r penaethiaid yn dweud y bydd unrhyw benderfyniad ynghylch croesawu cefnogwyr yn ôl yn cael ei wneud ar sail cyngor Llywodraeth Prydain a’r llywodraethau datganoledig, gyda thimau o bob un o wledydd Prydain yn cael eu cynrychioli yn y gamp.