Fydd Gareth Bale ddim yng ngharfan Real Madrid ar gyfer eu gêm olaf yn erbyn Leganes yn LaLiga heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 19).

Mae’r Cymro wedi bod ar gyrion carfan y pencampwyr ers tro.

Roedd e ar y fainc ar gyfer y fuddugoliaeth o 2-1 dros Villareal nos Iau (Gorffennaf 16), wrth i’w dîm gael eu coroni’n bencampwyr y gynghrair.

Dim ond unwaith mae e wedi dechrau gêm ers i bêl-droed ddychwelyd fis diwethaf ar ôl ymlediad y coronafeirws.

Mae’r dyfalu am ei ddyfodol yn y Bernabeu yn parhau.

Cafodd lluniau eu cyhoeddi yr wythnos hon yn ei ddangos ar gyrion y dathliadau, ac mae sawl llun yn ei ddangos yn ei hwyliau wrth esgus cysgu ar y fainc yn ystod y gêm yn erbyn Alaves yn gynharach yn y mis.

Mae ganddo fe gytundeb gyda Real Madrid tan 2022.

Ymunodd e â’r clwb o Spurs saith mlynedd yn ôl, a hynny am £85.3m.