Fe waeth Brett Johns, yr ymladdwr MMA o Abertawe, goroni wythnos lwyddiannus i ymladdwyr o Gymru gyda buddugoliaeth bwyntiau dros Montel Jackson yn Abu Dhabi neithiwr.

Daw’r fuddugoliaeth yr un wythnos â buddugoliaeth Jack Shore o Abertyleri ar ôl i Aaron Phillips ildio’r ornest yn yr ail rownd, gyda’r Cymro’n dangos pam ei fod yn cael ei ystyried yn un o obeithion pennaf Cymru yn yr UFC erbyn hyn.

Ond colli oedd hanes John Phillips o Abertawe yn ei ornest yn erbyn Khamzat Chimaev, wrth i’r cyn-swyddog diogelwch wynebu symudiad tagu i’w guro.

Brett Johns

Cipiodd Brett Johns fuddugoliaeth unfrydol neithiwr (nos Sadwrn, Gorffennaf 18) i gipio ail fuddugoliaeth ar bymtheg ei yrfa.

Fe lwyddodd i wthio’i wrthwynebydd yn erbyn ffens yr octagon yn y drydedd rownd cyn ei lorio, a hynny ar ôl i’r Cymro dioddef ergyd ddwrn i’w wyneb.

Yr Americanwr oedd wedi goroesi’r ail rownd ar ôl i Brett Johns osgoi taro’i wrthwynebydd yn ormodol rhag iddo fynd yn sownd yn ei freichiau a chael ei glymu.

Ceisiodd y Cymro symudiad tagu o’r tu ôl, ond fe wnaeth yr Americanwr ddianc i oroesi’r rownd a sawl ymgais arall i’w lorio.

Y sgôr ar ddiwedd yr ornest oedd 29-28, gyda phob un o’r beirniaid o blaid Brett Johns.

‘Ofnadwy’

“Os ydw i’n gwbl onest, bois, roedd y perfformiad yn ofnadw,” meddai Brett Johns ar ddiwedd yr ornest.

“Galla i ymroi dipyn mwy na hynny, a dw i’n ymddiheuro achos dw i’n gwybod bo fi’n gallu.

“Daeth Montel â sawl peth i’r bwrdd oedden ni’n eu disgwyl ond roedd ei deimlo fe drosof fi fy hun i mewn yno’n anhygoel.

“Fe wnaeth cryfder ei afael achosi lot o broblemau.

“Judoku ydw i hefyd ers 16 o flynyddoedd ac felly, mae gyda fi gryfder yn fy ngafael hefyd ond dw i erioed wedi teimlo unrhyw beth o’r fath o’r blaen.

“Fel dywedais i, ro’n i wedi gweithio’n galed ar y perfformiad.

“Dw i’n dod yma ac yn disgwyl hynny bob ffeit.

“Ar ddiwedd y dydd, dw i wedi mynd i dîm newydd, dw i heb berfformio ar fy ngorau.

“Ond pob clod i fy mhartneriaid hyfforddi sydd wedi fy helpu yn ystod y pandemig ofnadw yma, a diolch i’r UFC am drefnu sioe allai fod yn sioe unwaith mewn oes, ond trueni nad o’n i’n teimlo bo fi wedi troi i fyny iddi.

“Ond dyna ni, dw i’n hapus i gael yr ‘W’ (ennill), a dw i’n mynd adref yn ddyn hapus iawn.

“Diolch yn fawr i’r UFC.”