Mae un o chwaraewyr tîm pêl-droed Bristol City wedi cael ei sarhau’n hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i’w dîm golli yn erbyn Abertawe ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 18).

Fe wnaeth Famara Diedhiou, chwaraewr croenddu o Senegal, fethu cic o’r smotyn yn y golled o 1-0 yn Stadiwm Liberty, wrth i obeithion yr ymwelwyr o sicrhau lle yn y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth ddod i ben.

Fe wnaeth y chwaraewr 27 oed bostio llun o’r neges ar Twitter yn dangos emoji tri banana, gan ofyn “Pam?”

Mae Bristol City wedi beirniadu’r neges gan ddweud eu bod nhw’n cefnogi’r chwaraewr yn llwyr, ac nad oes “esgus na chyfiawnhad” am sarhau rhywun yn hiliol.

Mae’r clwb hefyd wedi adrodd am y mater wrth Twitter, ond dydy hi ddim yn glir eto a yw’r heddlu am gynnal ymchwiliad.

Dyma’r trydydd tro yr wythnos hon i bêl-droediwr croenddu gael ei sarhau’n hiliol, yn dilyn achosion Wilfried Zaha a David McGoldrick, a’r trydydd tro i chwaraewyr Bristol City gael eu sarhau’n hiliol, yn dilyn achosion Jojo Wollacott a Korey Smith.