Mae Andre Ayew, blaenwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd y rheolwr Steve Cooper ar drothwy diwrnod mawr i’r clwb ddydd Mercher (Gorffennaf 22), wrth iddyn nhw geisio lle yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Ras rhwng yr Elyrch a Chaerdydd fydd hi am y lle olaf ymhlith y chwech uchaf, gyda’r Elyrch yn gorfod curo Reading ar eu tomen eu hunain, a gobeithio y gall Hull guro’r Adar Gleision.

Mae gan Abertawe 67 o bwyntiau yn y seithfed safle, tra bod gan Gaerdydd 70 o bwyntiau yn y chweched safle.

Mae gan Nottingham Forest, sy’n bumed, 70 o bwyntiau hefyd ond mae ganddyn nhw gêm ychwanegol i’w chwarae.

Creu argraff

Byddai ennill lle yn y gemau ail gyfle yn ei dymor cyntaf yn rheoli un o glybiau Cynghrair Bêl-droed Lloegr yn dipyn o gamp i Steve Cooper, yn ôl Ayew.

“Mae’r rheolwr sydd gyda ni a’i staff wedi creu argraff arna i, ac maen nhw wedi gwneud gwaith gwych, meddai wrth golwg360 ar ôl i’r Elyrch guro Bristol City o 1-0 yn Stadiwm Liberty ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 18).

“Dydy hi ddim yn hawdd yn eich blwyddyn gyntaf a phan fo gyda chi gynifer o chwaraewyr ifanc.

“Mae gyda ni’r doniau ac fe allwch chi weld bod gyda ni hunaniaeth, dull o chwarae, llawer o chwaraewyr ifanc ac mae e [Steve Cooper] yn credu mewn gwella chwaraewyr.

“O ran yr ochr dactegol, rydyn ni wedi bod yn gwneud cynnydd o hyd.

“Rydyn ni wedi cael sawl llanw a thrai ond rydych chi’n gwybod pan fo gyda chi gynifer o chwaraewyr ifanc na allwch chi gael popeth yn iawn, fe gewch chi lanw a thrai ac y bydd pethau’n mynd mor bell ag y gall fynd.

“Dyna ddigwyddodd ar ôl y corona.

“Ar ôl y gêm yn erbyn Luton [colli o 1-0], fe gyrhaeddon ni ryw lefel ac aros yno a dyna dw i’n credu oedd y cynllun o’r dechrau, cyrraedd rhyw safon, sgorio goliau, amddiffyn yn dda a chadw’r bêl ar y llawr.

“Dyna rydyn ni’n gallu ei wneud nawr.

“Mae e’n cyfleu ei neges yn dda a dw i’n hapus o fod wedi cwrdd â fe ac o weithio gyda fe, oherwydd mae ganddo fe syniadau gwych a dw i’n credu y bydd e’n rheolwr mawr yn y dyfodol.”

‘Camp fawr iawn’

Yn ôl Andre Ayew, byddai cyrraedd y gemau ail gyfle’n gamp “fawr iawn”.

“Dw i’n gwybod o edrych ar y timau o’n cwmpas ni, yr holl dimau yn y [safleoedd] ail gyfle, neu sy’n ceisio cyrraedd y gemau ail gyfle, maen nhw wedi gwario llawer o arian, wedi dod â chwaraewyr i mewn ar gyflogau mawr iawn, ac maen nhw’n chwaraewyr sy’n gweithio’n galed.

“Nid ni yw’r unig dîm sydd eisiau esgyn.

“Mae gyda chi dimau fel Huddersfield a Stoke oedd yn bwriadu esgyn eto ac o edrych ar y timau o’n blaenau ni.

“Edrychwch ar Leeds a West Brom, timau sydd wedi prynu chwaraewyr ac wedi gwario arian i geisio cyrraed y fan honno.

“Felly o edrych ar ein clwb ni, gydag Oli [McBurnie] yn mynd, Dan James, Leroy [Fer], fe wnaethon ni golli sawl chwaraewr profiadol, Martin Olsson hefyd, chwaraewyr profiadol iawn.

“Fe wnaethon nhw adael ac fe ddaeth y chwaraewyr ifanc i mewn a chafodd sawl un gyfle ac felly, mae dod mor agos yn beth da.”

Ond mae’n cydnabod ar yr un pryd na fu nifer o ganlyniadau’n ddigon da y tymor hwn.

“Fe gawson ni ambell ganlyniad oedd wedi ein rhoi ni ar ei hôl hi.

“Mae [y sefyllfa] yn dda oherwydd mewn dwy neu dair gêm, gallen ni fod wedi ennill pwynt a bydden ni wedi bod mewn sefyllfa wahanol, ond dyna sut mae pêl-droed.

“Rhaid i ni gredu, gweithio, gorffwys a sicrhau y cawn ni driphwynt, a gobeithio y byddwn ni i gyd yn gwenu nos Fercher.”