Fe fydd timau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd yn cystadlu am y lle olaf yn y gemau ail gyfle wrth i dymor y Bencampwriaeth dynnu tua’i derfyn nos Fercher (Gorffennaf 22).
Mae gan yr Adar Gleision 70 o bwyntiau a’r Elyrch 67, ac mae gan Nottingham Forest, sy’n bumed, 70 o bwyntiau hefyd gydag un gêm yn fwy yn weddill.
Mae hynny’n golygu y byddai pwynt yn ddigon i’r Adar Gleision, tra bod rhaid i’r Elyrch guro Reading nos Fercher (Gorffennaf 22) a gobeithio bod Caerdydd yn colli yn erbyn Hull sydd yng ngwaelodion y tabl.
Abertawe 1-0 Bristol City
Dim ond buddugoliaeth fyddai’n gwneud y tro i’r Elyrch wrth iddyn nhw groesawu Bristol City a’u cyn-gapten Ashley Williams i Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 18).
Daeth gôl hollbwysig y tîm cartref yn eiliadau ola’r hanner cyntaf wrth i’r cefnwr de Connor Roberts rwydo ar ôl i’r bêl adlamu oddi ar y postyn yn dilyn ergyd Conor Gallagher.
Dyma gôl gynta’r Cymro ers mis Ebrill 2019, ac roedd ei hamseru’n dyngedfennol wrth gadw gobeithion Abertawe’n fyw.
Gallai’r ymwelwyr fod wedi unioni’r sgôr ar ôl 68 munud pan gawson nhw gic o’r smotyn wrth i Ben Cabango lorio’r eilydd Famara Diedhiou, oedd newydd ddod i’r cae.
Ond tarodd e’r postyn â’i ymgais.
“Roeddech chi’n gallu gweld bod y ddau dîm wedi’u hysgogi, ac mae’n gêm fawr, dim ond dros y dŵr mae Bryste,” meddai’r rheolwr Steve Cooper.
“Dywedais i wrth y chwaraewyr cyn y gêm, pan aethon ni yno’n gynharach yn y tymor, roeddech chi’n gallu gweld bod y cefnogwyr wir yn barod amdani.
“Mae’r gêm hon yn bwysig i’r cefnogwyr, ac fe wnes i eu hatgoffa nhw o hynny.
“All ein cefnogwyr ni ddim dod i’r stadiwm o hyd, a dydy bywyd ddim yn hawdd i lawer o bobol ar hyn o bryd.
“Felly ro’n i eisiau sicrhau ein bod ni’n gwneud pwy bynnag oedd yn gwylio yn hapus, a dw i’n credu ein bod ni wedi gwneud hynny.”
Middlesbrough 1-3 Caerdydd
Rhwydodd Sean Morrison yn yr hanner cyntaf i roi blaenoriaeth gynnar i’r Adar Gleision, ac fe ychwanegodd yr eilydd Josh Murphy ddwy gôl yn yr ail hanner wrth iddyn nhw barhau i bwyso ar Abertawe yn y ras am y gemau ail gyfle.
Daeth gôl gysur i Britt Assombalonga yn hwyr yn yr ornest i ddeg dyn Middlesbrough, ar ôl i Jonny Howson weld cerdyn coch yn niwedd y gêm.
“Ar yr adeg yma yn y tymor, mae angen cryn gymeriad arnoch chi ac fe aethon ni allan heddiw ac roedd gyda ni hen ddigon,” meddai’r rheolwr Neil Harris.
“Mae timau Neil Warnock yn eithriadol o anodd i chwarae yn eu herbyn nhw, maen nhw wedi bod yn perfformio’n dda ac wedi sicrhau diogelwch iddyn nhw eu hunain, felly chwarae teg i fy chwaraewyr i am fod yn ddigon dewr i geisio’r bêl i chwarae, ond rhaid i chi sefyll i fyny iddyn nhw yn gorfforol hefyd.”
Pe bai modd sgriptio diwrnod olaf tymor y gynghrair yma yng Nghymru, fyddai neb yn gallu dewis diweddglo mwy addas i dynnu dŵr i’r dannedd.