Mae Steve Cooper yn dweud bod ennill chwe phwynt yn y ddwy gêm olaf yn y Bencampwriaeth “yn bwysig iawn” i dîm pêl-droed Abertawe, wrth iddo hefyd siarad â golwg360 am bwysigrwydd cynnig cymorth iechyd meddwl ym myd y campau yn dilyn helynt y cricedwr Jofra Archer.
Bydd yr Elyrch yn croesawu Bristol City i Stadiwm Liberty am 3yp yfory (dydd Sadwrn, Gorffennaf 17), cyn teithio i Reading nos Fercher (Gorffennaf 22) ar gyfer gêm ola’r tymor.
Maen nhw’n wythfed yn y tabl, un pwynt y tu ôl i Millwall a thriphwynt y tu ôl i Gaerdydd, sydd hefyd wedi chwarae 44 o gemau.
“Mae amrywiaeth o bethau allai ddigwydd, o’ch plaid chi ac yn eich erbyn chi,” meddai Steve Cooper yn ei gynhadledd wythnosol heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 17).
“Gyda hynny mewn golwg, dw i’n credu ei bod hi’n bwysig iawn canolbwyntio ar y ddwy gêm a chael y chwe phwynt.
“Dyna rydyn ni’n anelu ato.
“Bydd hi’n gêm anodd yfory yn erbyn Bristol City, sy’n amlwg wedi casglu cryn dipyn o bwyntiau dros yr wythnosau diwethaf.
“Mae’n gêm anodd eto ar ôl yr un ganol wythnos [1-1 yn Nottingham Forest], ond yn un mae’n rhaid i ni fod yn barod ar ei chyfer, a rhaid i ni anelu am chwe phwynt o’r ddwy gêm olaf, yn sicr.”
Canolbwyntio ar eu gwaith eu hunain
Er bod rhaid i Abertawe ddibynnu ar dimau eraill o’u cwmpas, mae Steve Cooper yn mynnu bod rhaid canolbwyntio ar eu gwaith eu hunain.
“Yr unig beth sydd gyda ni reolaeth drosti yw’r gêm yma yn erbyn Bristol City ac yna yn erbyn Reading, a gwneud popeth allwn ni wedyn i sicrhau ein bod ni’n cael y chwe phwynt, neu hyd yn oed y triphwynt yfory a chanolbwyntio wedyn ar beth bynnag sy’n digwydd ar ôl hynny.
“Mae dwy gêm ar ôl o fewn llai nag wythnos, a bydd pethau’n cael eu datrys yn gyflym iawn.
“Mae wedi bod yn amserlen brysur iawn gyda gemau ddyddiau’n unig ar ôl ei gilydd, a’r holl deithio.
“Ond mae hi’r un fath i bawb, does neb yn waeth eu byd na neb arall.
“Rhaid i ni ofalu amdanom ni’n hunain, a gobeithio y bydd pethau’n mynd o’n plaid ni.”
Meddylfryd
Yn ôl Steve Cooper, mae meddylfryd y chwaraewyr yn hollbwysig mewn ras o’r fath, ond yn enwedig yn dilyn cyfnod mor anodd a gwahanol yn sgil y coronafeirws.
Roedd e’n ymateb i helynt Jofra Archer, cricedwr Lloegr, sydd wedi cael ei gosbi am adael “swigen fio-ddiogel” y garfan i fynd adref i Hove ar ei ffordd o Southampton i Fanceinion.
Ac mae’n dweud na ddylid trin pobol ym myd y campau yn wahanol i neb arall.
“Mae wedi bod yn wahanol iawn i bawb,” meddai wrth golwg360.
“Dw i ddim yn meddwl y dylid meddwl am ddynion neu ferched ym myd y campau mewn ffordd wahanol i ni’r bobol gyffredin.
“Rydyn ni wedi byw mewn byd gwahanol ac anodd dros y misoedd diwethaf, felly dw i’n credu ei fod e’n bwnc pwysig iawn beth bynnag, dim ots ai cricedwr neu bêl-droediwr yw e.
“I ni, rydyn ni’n ymwybodol ei fod e’n amgylchfyd heriol yn y byd chwaraeon proffesiynol, a byddwn i’n hoff meddwl ein bod ni’n cynnig cymaint o ofal a chefnogaeth â phosib i’r chwaraewyr.
“Oherwydd i’r byd tu allan, gall ymddangos yn fyd hapus iawn ond dyw e ddim bob amser.
“Mae pawb yn wahanol.
“Mae’n rywbeth o fewn y diwylliant rydyn ni’n hoff o gadw llygad arno fe beth bynnag, ond yn sicr dros y misoedd diwetaf, rydyn ni wedi ceisio cyfathrebu cymaint â phosib â’r chwaraewyr a chael yr amserlen yn iawn fel bod pawb yn teimlo’r gefnogaeth a bod digon o gyfathrebu â phawb, nid yn unig y chwaraewyr ond y staff hefyd.
“Hyd yn oed fan hyn yn y stadiwm, rydyn ni wedi ei defnyddio hi dipyn yn ddiweddar er mwyn sicrhau bod digon o gyfathrebu o gwmpas y clwb.
“Dw i’n credu ei fod e’n gyfnod pan fo angen i bawb ofalu am ei gilydd, a dw i hefyd yn credu ei fod e’n gyfnod pan fo angen i ni sylweddoli nad ydyn ni wedi dod trwy’r pandemig mewn gwirionedd.
“Gobeithio’n fawr na fydd ail don ac mae angen i bob fod yn wyliadwrus a gofalu am ein gilydd, ac rydyn ni’n sicr yn gwneud hynny yn y clwb, ac mae’n siŵr fod pawb yn gwneud hynny y tu allan i’r clwb gyda’u teuluoedd, ac yn y blaen.”
Pwysigrwydd seicoleg
Yn ôl Steve Cooper, dydy’r coronafeirws ddim wedi arwain at fwy o gymorth seicolegol yn y byd chwaraeon, oherwydd mae cryn dipyn ar gael eisoes.
“Mae’r gefnogaeth ffurfiol a swyddogol wedi bod yno beth bynnag,” meddai.
“Mae seicoleg yn y byd chwaraeon yn beth mawr erbyn hyn, a dw i jyst yn teimlo bod y diwylliant cyfoes ac arweinyddiaeth ar y cyfan yn llawn cefnogaeth i bobol.
“Mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, felly hoffwn i feddwl ei bod hi yno beth bynnag, ond mae gyda ni gefnogaeth seicolegol i’r chwaraewyr. Dydy hynny ddim yn beth newydd.
“Byddai’r rhan fwyaf o glybiau’n dweud hynny, felly dydy e ddim yn newyddion sy’n hawlio’r penawdau, os liciwch chi, ond mae cefnogaeth yno i chwaraewyr os oes angen.
“Fel y dywedais i, dw i’n credu ein bod ni i gyd wedi gorfod codi’n safonau rywfaint dros y misoedd diwethaf yn nhermau gofalu am ein gilydd a sicrhau ein bod ni’n cadw golwg ar bawb a sicrhau eu bod nhw’n iawn.”