Mae’r batiwr Nick Selman wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg tan ddiwedd y tymor nesaf.

Yn enedigol o Awstralia, ymunodd e â’r sir yn 2015 ac fe sgoriodd ei ganred cyntaf y tymor canlynol yn erbyn Swydd Northampton ar gae San Helen yn Abertawe – y batiwr agoriadol cyntaf ers 12 mlynedd i gario’i fat, sef batio trwy gydol y batiad.

Yn 2017, tarodd e bedwar canred dosbarth cyntaf a gorffen yn brif sgoriwr y sir yn y Bencampwriaeth.

Mae e wedi sgorio dros 2,500 o rediadau dosbarth cyntaf i’r sir, gan gynnwys saith canred, a daeth ei sgôr gorau erioed, 150, yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghasnewydd y tymor diwethaf.

‘Wedi cyffroi’n fawr’

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o ymestyn fy nghytundeb a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y blynyddoedd i ddod,” meddai.

“Gobeithio y galla i berfformio’n dda o ran y sgorfwrdd a chyfrannu i’r tîm ac y gallwn ni ennill gemau criced.

“Allwn ni ddim aros i gael dechrau’r tymor hwn; mae pawb yn ysu i ddechrau.”

‘Rhan allweddol o’r tîm yn y Bencampwriaeth’

“Daeth Nick yn rhan allweddol o’r tîm ym Mhencampwriaeth y Siroedd dros y tymhorau diwethaf, ac mae e ymhlith ein prif sgorwyr rhediadau yn gyson bob tymor,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Dydy agor y batio ddim yn dasg hawdd, ac mae Nick wedi dangos ei allu i gymhwyso’i hun yn gyson ers ei gêm gyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy fyth ganddo fe.

“Mae e hefyd wedi cynnig cip o’i dalent yn y fformat byr ac rydym wedi cyffroi o weld ei gam nesaf.”