Ddoe (dydd Mercher, Gorffennaf 15), toc cyn diwrnod cynta’r ail brawf rhwng Lloegr ac India’r Gorllewin, daeth y newyddion fod Jofra Archer, bowliwr cyflym Lloegr, wedi’i anfon adref ar ôl torri rheolau’r coronafeirws a gafodd eu gosod ar gyfer y garfan fel rhan o ‘swigen fio-ddiogel’, sef mantra newydd y byd criced rhyngwladol ar gyfer yr haf yma.

Roedd aelodau’r garfan i fod i deithio o Southampton, lleoliad y prawf cyntaf, i Old Trafford, lleoliad yr ail brawf, ar eu pennau eu hunain, a dim ond stopio yn y lleoliad oedd wedi cael ei glustnodi ar eu cyfer nhw. Roedd eu taith yn cael ei dracio, a wnaeth e ddim cyfadde’r daith am 48 awr. Roedd e wedi dianc o’r swigen i fynd adref i Hove at ei gariad.

Yn ôl yr ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr), bydd e’n gorfod ynysu nawr am bum niwrnod a chael dau brawf COVID-19 negatif cyn diwedd y cyfnod ynysu. Mae’n debyg bod awdurdodau India’r Gorllewin wedi cael gwybod a’u bod nhw’n fodlon bod y drefn gywir wedi’i dilyn wrth ymateb i’r sefyllfa.

Mae’r dyfyniad canlynol gan Glenn Turner yn egluro meddylfryd cricedwyr sy’n byw ymhlith ei gilydd am gyfnodau hir: “You can get too close as a team. You need time away from each other. You change in the same dressing room, you play on the same cricket field, you stay in the same hotel, you travel in the same planes and buses.”

Fe wnaeth Turner, cyn-gricedwr Seland Newydd, y sylwadau hyn tra ei fod e’n dal yn chwarae mewn cyfnod ac amgylchiadau gwahanol iawn i’r rhai mae cricedwyr heddiw’n byw drwyddyn nhw. Dyma fywyd cyffredin cricedwyr yn teithio’r byd i chwarae. Ond maen nhw’n berthnasol iawn i gricedwyr Lloegr sydd wedi dychwelyd i chwarae mewn amgylchiadau anghyffredin yn dilyn y coronafeirws, ac sy’n gorfod byw mewn ‘swigen’ ar hyn o bryd.

Egluro’r ‘swigen’

Beth yn union yw’r ‘swigen fio-ddiogel’ mae cricedwyr Lloegr yn rhan ohoni? Mae’r dyfarnwr Alex Wharf, cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, wedi profi’r fath amgylchfyd fel un o’r dyfarnwyr yng ngofal gemau paratoadol rhwng cricedwyr India’r Gorllewin ac un o ddyfarnwyr y gyfres brawf, ac fe fues i’n siarad â fe’n ddiweddar am ei brofiadau.

“Mae wedi bod yn wahanol iawn cael bod yn rhan o griced bio-ddiogel,” meddai.

“Yn syml iawn, mae gyda chi’ch ystafell yn y gwesty, rydych chi’n syth allan ar y cae, ac yna rydych chi’n mynd i’r ystafell newid, ond nid yr ystafell newid fydden ni ynddi fel arfer. Rydyn ni’n bwyta yn yr un ystafell bob dydd – brecwast, cinio a swper – ac yn cael brechdannau yn yr ystafell newid. Mae hi fel ystafell gyffredin, am wn i, gyda bwrdd tenis bwrdd, bwrdd dartiau, teledu, cyfleusterau diodydd, a dyna lle’r ydyn ni’n cael bwyd hefyd.”

Ond sut mae dygymod â’r fath unigrwydd anghyfarwydd, tybed?

“Rydych chi jyst yn dod i arfer â’r cyfan, dydych chi jyst ddim yn y byd tu allan. Rhaid i chi ddod i arfer â’r meddylfryd o fod yn y sefyllfa honno.”

Os yw chwaraewyr wedi cadarnhau eu bod nhw ar gael ar gyfer y gyfres, ac yn barod i gael eu talu am chwarae yn ôl y gofynion, a hynny ar adeg o ansicrwydd ynghylch swyddi, yna dylen nhw fod yn barod i gadw at y rheolau ac addasu eu meddylfryd gorau gallan nhw.

Ymateb o’r tu allan

Yn sgil yr holl sylw i gyfyngiadau’r coronafeirws dros y misoedd diwethaf, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn benderfynol o dorri’r rheolau sy’n ceisio cadw pawb yn ddiogel – a rhai o’r rheiny’n bobol flaenllaw iawn – mae hi ond yn naturiol bod camwedd Jofra Archer yn cael cryn sylw.

Mae sylwebyddion a gohebwyr wedi ymateb mewn sawl ffordd – “naïf a thwp” meddai’r sylwebydd Nasser Hussain ar Sky, “gor-ymateb” yn ôl cyn-gricedwr Lloegr Ravi Bopara, ac amgylchiadau ei gosbi’n “unigryw iawn” yn ôl y sylwebydd teledu Harsha Bhogle.

Manteisiodd y gohebydd Richard Hobson ar y cyfle i nodi, “Dwi ddim yn siŵr y byddai Dominic Cummings wedi goroesi cyfundrefn yr ECB”.

Daeth yr ymateb mwyaf trawiadol gan Michael Holding, y sylwebydd Sky a chyn-fowliwr cyflym India’r Gorllewin, wrth iddo ddweud nad oes ganddo fe “ddim cymdeimlad” ag Archer. “Treuliodd Nelson Mandela 27 mlynedd mewn cell fach a wnaeth e ddim byd o’i le – dyna i chi aberth”.

Do, fe wnaeth Mandela aberthu gryn dipyn. Dyw aros mewn ‘swigen fio-ddiogel’ i gadw pobol yn ddiogel, a derbyn tâl sylweddol am ‘waith’ rydych chi’n ei garu, ddim yn aberth o unrhyw fath.

Mewn datganiad, roedd Archer yn cyfaddef iddo roi ei hun, y tîm a’r rheolwyr mewn perygl. Fe ymddiheurodd e. O dan amgylchiadau arferol a phe bai wedi torri cyrffiw o fath gwahanol, mae’n siŵr mai dyna ddiwedd y mater ac y gellid priodoli’r digwyddiad i naïfrwydd, ar y gorau, ac agwedd sarhaus ar y gwaethaf.

Yng nghanol pandemig, dyw’r sefyllfa ddim yn adlewyrchu’n dda arno fe. Yng nghanol pandemig, dyw pobol ddim bob amser yn gwneud penderfyniadau call chwaith. Mae pobol yn barnu yn ôl eu greddf a’u profiadau eu hunain. Mae’r holl sefyllfa – a’r ymateb iddi – yn ddi-gynsail. Gellid dadlau, o orfod mynd i ganol ‘swigen fio-ddiogel’, fod gofyn i gricedwyr fynd gam ymhellach na’u cyfoedion mewn campau eraill.

Croeso i’r byd criced yn y ‘normal newydd’.