Mae bowliwr tîm criced Lloegr Jofra Archer wedi cael ei wahardd o’r ail gêm brawf yn erbyn India’r Gorllewin heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 16) am dorri rheolau’r tîm ynglŷn â chadw’n ddiogel yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae’r ddau dîm wedi bod yn byw, hyfforddi a chysgu mewn dau “bybl” yn yr  Ageas Bowl ac Emirates Old Trafford gan gadw at ganllawiau iechyd a diogelwch tynn oedd wedi’u cytuno gan y ddau fwrdd.

Mae Jofra Archer bellach wedi cyfaddef iddo dorri’r rheolau hynny ac mae wedi cael ei dynnu o safle’r tîm ar unwaith.

Ymddiheuriad

Dywedodd Jofra Archer: “Mae’n ddrwg iawn gen i am yr hyn dw i wedi’i wneud. Rydw i wedi rhoi nid yn unig fy hun, ond y tîm i gyd a’r rheolwyr, mewn perygl. Dwi’n derbyn canlyniadau fy ngweithredoedd yn llawn a hoffwn ymddiheuro’n daer i bawb yn y ‘bybl’.”

Mewn datganiad dywedodd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr y bydd Jofra Archer nawr yn dechrau cyfnod o bum diwrnod mewn cwarantin ac yn cael dau brawf Covid-19 yn ystod y cyfnod yma. Fe fydd yn gorfod cael prawf negatif cyn bod y cyfnod o hunan-ynysu yn dod i ben.

“Mae tîm India’r Gorllewin yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn fodlon gyda’r mesurau sydd wedi cael eu gosod,” meddai’r datganiad.