Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e’n “rhwystredig” yn dilyn y gêm gyfartal 2-2 yn Nottingham Forest heno (nos Fercher, Gorffennaf 15).
Tarodd y tîm cartref yn ôl ddwywaith ar ôl i’r Elyrch fynd ar y blaen yn y ras am le yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Aeth yr Elyrch ar y blaen diolch i chwip o gôl gan Rhian Brewster, ei nawfed o’r tymor, o ymyl y cwrt cosbi.
Ond roedd Forest yn gyfartal yn fuan wedyn wrth i Sammy Ameobi rwydo yn erbyn llif y chwarae.
Aeth Abertawe ar y blaen eto yn hwyr yn yr hanner cyntaf wrth i Andre Ayew drosi o’r smotyn i sgorio gôl rhif 17 y tymor.
Forest gafodd y gorau o’r meddiant wedi’r egwyl, ac fe wnaethon nhw fanteisio arno wrth i Ameobi sgorio’i ail gôl o’r noson.
Roedd rhwystredigaeth yr Elyrch yn glir erbyn diwedd y gêm, a wnaeth Kyle Naughton ddim dadlau â’r dyfarnwr pan gafodd ei anfon o’r cae am dacl flêr toc cyn y chwiban olaf.
Gemau yn erbyn Bristol City a Reading sydd gan yr Elyrch i ddod.
Yn ôl pob tebyg, bydd angen dwy fuddugoliaeth ar yr Elyrch mewn ras sy’n parhau’n dynn wrth i’r tymor dynnu tua’i derfyn, ond byddan nhw’n gorfod ymdopi heb Freddie Woodman, Ben Wilmot a Joe Rodon (anafiadau), yn ogystal â Naughton (gwaharddiad).
‘Rhwystredigaeth’
“Maen nhw’n dawel ac yn rhwystredig,” meddai Steve Cooper am ei chwaraewyr ar ddiwedd y gêm.
“Unrhyw bryd rydych chi’n dod i rywle fel hyn, chwarae pêl-droed fel y gwnaethon ni a chael y canlyniad hwnnw, dw i’n credu y byddech chi’n fodlon iawn ond yr amseru yw’r peth.
“Allwn i ddim gofyn am fwy o ymdrech gan y chwaraewyr.
“Byddai triphwynt wedi bod yn wych heno a dyna roedden ni ei eisiau, ac mae’n ymddangos fel y byd hi’n mynd hyd y diwedd.
“Hyd yn oed pe baen ni wedi ennill heno, byddai’n rhaid ein bod ni’n curo Bristol City ar y penwythnos, felly y cyfan wnawn ni yw paratoi a gwneud ein gorau i gael y triphwynt.”
Y cerdyn coch a’r dyfarnwr
Wrth drafod cerdyn coch Kyle Naughton, dywedodd Steve Cooper fod perfformiad y dyfarnwr Oliver Langford wedi ei siomi.
“Heb eistedd ar y ffens, dw i heb ei weld e’n ôl ond roedd y ffaith y digwyddodd e o flaen eu cwtsh nhw ac o ystyried penderfyniad y dyfarnwr ar y cyfan, dim ond un penderfyniad oedd am fod,” meddai.
“Gallen ni weld hynny drwy gydol y gêm.
“Dw i ddim yn gwybod sut wnaeth e ddim anfon eu hamddiffynnwr canol ochr dde nhw oddi ar y cae, yn y lle cyntaf am y dacl yn yr hanner cyntaf ond yn sicr am ail gerdyn melyn yn yr ail hanner.
“Ond roedd y reff yn gwybod ei fod e’n cael y math yna o berfformiad, felly dwi ddim yn meddwl ei fod e eisiau gwneud pethau’n waeth iddo fe ei hun.
“Roedd hi’n eitha’ bygythiol yma er nad oedd torf, o ran yr awyrgylch, ac roedden ni’n gwybod unwaith wnaethon nhw [chwaraewyr Nottingham Forest] ymateb fel yna, dim ond un peth roedd y dyfarnwr yn mynd i’w wneud.”
Dywedodd y bydd yn “rhoi adborth” i’r awdurdodau am berfformiad y dyfarnwr.
“Bydd rhaid i fi wylio eto, ond rydyn ni mewn cysylltiad cyson â chymdeithas y dyfarnwyr er mwyn rhoi adborth iddyn nhw, felly dw i’n cymryd mai dyna fyddwn ni’n ei wneud eto,” meddai.