Er ei fod bellach yn 73 oed, mae Dic Evans yn dal i redeg yn ddyddiol… yn wir, mae yn cystadlu mewn rasys ledled y byd.

Mae’r gŵr o Geredigion yn hyfforddi  grŵp rhedeg, ac mae’n trefnu digwyddiadau gan gynnwys Sialens y Barcud Coch – sef diwrnod o rasys yn ardal Pontarfynach.

Ac eleni mae wedi codi miloedd o bunnau i Ysbyty Bronglais, yn Aberystwyth, trwy redeg 1,000 o filltiroedd mewn llai na 100 diwrnod, a denu cryn sylw am hynny.