Mae Jamie Clarke, y chwaraewr snwcer o Lanelli, wedi colli gêm danllyd yn erbyn yr Albanwr Anthony McGill yn y Crucible yn Sheffield.

Gyda’r sgôr yn 7-2 yn yr ornest ail rownd, fe wnaeth y ddau ffraeo pan gafodd y Cymro ei gyhuddo o sefyll yng ngolwg yr Albanwr wrth iddo baratoi i daro pêl felen hir.

Bu’n rhaid i’r dyfarnwr Jan Verhaas ymyrryd, gan orchymyn y Cymro i ddychwelyd i’w gadair o ben draw’r bwrdd.

Sylwadau “plentynnaidd”

Yn ystod y toriad rhannodd Jamie Clarke neges ar Twitter yn herio Anthony McGill.

Yn ddiweddarach disgrifiodd Anthony McGill sylwadau’r Cymro fel rhai “plentynnaidd”.

Enillodd Anthony McGill saith allan o’r wyth ffrâm nesaf gan wneud hi’n 9-9.

Roedd hi’n frwydr agos ac roedd y Cymro o fewn trwch blewyn i fuddugoliaeth.

Ond ar ôl iddo fethu pêl binc hollbwysig roedd hi ar ben i Jamie Clarke .

Enillodd Anthony McGill 13-12.

Bydd Anthony Mcgill yn wynebu Kurt Maflin o Norwy yn y rownd nesaf, a bydd y Cymro Mark Williams yn wynebu Ronnie O’Sullivan.