Yn dilyn penwythnos o dywydd poeth mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd yng Nghymru rhwng dydd Llun a dydd Iau.

Mae disgwyl stormydd difrifol a gallai hyd at 80mm o law ddisgyn mewn mannau.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai cartrefi a busnesau weld llifogydd.

Mae hefyd disgwyl oedi i drafnidiaeth gyhoeddus ac mae Traffig Cymru wedi rhybuddio pobol i fod yn ofalus wrth yrru yng Nghymru dros y dyddiau nesaf.