Fe allai rhai ysgolion yng Nghymru gau os oes cynnydd lleol mewn achosion o’r coronafeirws, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Wrth gael ei holi ar raglen BBC Breakfast bore ma (Dydd Llun, Awst 10) dywedodd Mark Drakeford bod “pob achos yn wahanol; mewn rhai llefydd fe fyddai peidio agor ysgolion yn rhan o’r cynllun, ond efallai mewn achosion eraill na fyddai hynny’n angenrheidiol.

“Mae’n dibynnu ar yr amgylchiadau lleol a’r timau ar lawr gwlad, ac fe fyddan nhw wedyn yn cynghori gweinidogion Cymru,” meddai.

Ychwanegodd bod cyfres o opsiynau’n bosib os oes angen.

“Y prif beth yw cael pob plentyn yn ôl yn yr ysgol ym mis Medi fel eu bod nhw’n dysgu – mae’r plant yma wedi cael eu hamddifadu o hynny ers misoedd.”

“Risg lleiaf”

Daw ei sylwadau yn sgil pryderon y gallai achosion o’r coronafeirws gynyddu pan fydd plant yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi.

Ond dywedodd yr Athro Russell Viner, llywydd Coleg Brenhinol Pediatreg a Iechyd Plant, ac aelod o grŵp ymgynghorol Sage Llywodraeth Prydain, wrth raglen Today ar BBC Radio 4 mai “agor ysgolion yw un o’r pethau sy’n peri’r risg lleiaf y gallwn ni ei wneud.”

Ategu hynny wnaeth yr Ysgrifennydd Addysg Gavin Williamson, sy’n dweud mai ychydig o dystiolaeth sydd bod ysgolion yn lledaenu’r haint.

Ond mae athrawon, gwyddonwyr, a gwleidyddion y gwrthbleidiau wedi galw am welliannau wrth gynnal profion am Covid-19 cyn i blant ddychwelyd i’r ysgol.