Mae “ailagor ysgolion yn un o’r pethau sy’n peri’r risg lleiaf y gallwn ei wneud” meddai arbenigwr blaenllaw.
Dywedodd yr Athro Russell Viner, llywydd Coleg Brenhinol Paediatreg ac Iechyd Plant, sydd hefyd yn aelod o grŵp cynghori gwyddonol Sage y Llywodraeth, wrth raglen Today ar BBC Radio 4 ddydd Llun (Awst 10) mai “rhan fach iawn yn unig mae plant yn ei chwarae wrth drosglwyddo’r coronafeirws.”
Fodd bynnag, mae athrawon, gwyddonwyr, a gwleidyddion wedi galw am welliannau i brofion cyn i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol.
Cydbwysedd
Er i’r Athro Russell Viner gydnabod bod plant yn gallu trosglwyddo’r feirws, eglurodd fod angen cydbwysedd.
“Ni allwn fod mewn cymdeithas ddi-risg – mae angen cydbwyso’r risg”, meddai.
“Ar gyfer cymdeithas ehangach, rwy’n credu ei bod hi’n amlwg bod ailagor ysgolion yn un o’r pethau sy’n peri’r risg lleiaf y gallwn ei wneud.
“Bydd unrhyw gamau i ailagor ein cymdeithas yn ychwanegu rhywfaint at y gyfradd heintio, ond yn gyffredinol rhan fach iawn byddai ysgolion yn ei chwarae yn hyn, ni fyddai’n ychwanegu fawr ddim at y gyfradd R.”
Ailagor yn llawn
Bydd ysgolion Cymru yn ailagor yn llawn o fis Medi ymlaen – a hynny am y tro cyntaf ers dechrau’r argyfwng coronafeirws.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams fis diwethaf na fyddai angen i ddisgyblion gadw pellter rhyngddyn nhw a phlant eraill yn eu dosbarth – neu ‘grŵp cyswllt’ – ond bydd yn rhaid i oedolion bellhau’n gymdeithasol.
“Bydd ysgolion yn ailagor yn llawn gyda lefel isel o bellhau cymdeithasol oddi fewn i ‘grwpiau cyswllt’,” meddai Kirsty Williams.
Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi dweud ei bod hi’n “flaenoriaeth genedlaethol” i gael plant yn ôl i’r ysgol yn Lloegr fis nesaf, ond mae cynghorwyr gwyddonol wedi ei rybuddio y gallai hyn arwain at gynnydd mewn trosglwyddiad o’r feirws.
Ymateb Mark Drakeford
Wrth gael ei holi ar raglen BBC Breakfast dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai rhai ysgolion yng Nghymru gau os oes cynnydd lleol mewn achosion o’r coronafeirws.
Digwyddodd hyn yn Ynys Môn ym mis Mehefin. Yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid-19 ar yr ynys penderfynodd Cyngor Môn i beidio ailagor ysgolion cyn ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Mark Drakeford bod “pob achos yn wahanol; mewn rhai llefydd fe fyddai peidio agor ysgolion yn rhan o’r cynllun, ond efallai mewn achosion eraill na fyddai hynny’n angenrheidiol.
“Mae’n dibynnu ar yr amgylchiadau lleol a’r timau ar lawr gwlad, ac fe fyddan nhw wedyn yn cynghori gweinidogion Cymru,” meddai.