Mae Cyngor Môn wedi penderfynu peidio ailagor ysgolion i holl ddisgyblion yr ynys ddiwedd y mis.
Y cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru yw bod ysgolion y wlad yn croesawu’r holl ddisgyblion yn ôl, fesul dipyn, o Fehefin 29 ymlaen.
Mae plant gweithwyr allweddol eisoes wedi bod yn mynd i’r ysgol.
Ond oherwydd y cynnydd mewn achosion Covid-19 ar yr ynys yr wythnos hon, mae’r cyngor sir wedi penderfynu peidio agor yr ysgolion i bawb – ac maen nhw eto i benderfynu dyddiad ar gyfer yr ailagor.
Datganiad y cyngor
“Ni fydd dosbarthiadau ysgolion Ynys Môn yn agor fel rhan o gynlluniau ‘Ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi’ Llywodraeth Cymru ar 29 Mehefin,” meddai llefarydd.
“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud o ganlyniad i’r cynnydd diweddar mewn achosion positif o’r Coronafeirws ar yr Ynys a’r penderfyniad i gau safle Two Sisters yn Llangefni yn dilyn nifer uchel o achosion positif ymysg y gweithlu.”
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi: “Rydw i wedi pwysleisio o’r dechrau mai iechyd a diogelwch ein plant, staff a chymunedau sy’n gorfod dod gyntaf.”
“Mae’r nifer cynyddol o ganlyniadau positif ar yr ynys a’r newyddion ddoe am gau ffatri Two Sisters yn Llangefni wedi creu llawer iawn o ansicrwydd a phryder ar yr Ynys.
“Mae hi’n bosibl, wrth gwrs, y gallem weld cynnydd yn y lefelau trosglwyddo’r feirws yn gymunedol. O ganlyniad, dydw i ddim ar hyn o bryd yn fodlon gweld dosbarthiadau yn cael eu hagor i blant Ynys Môn.
“O ganlyniad i’r ansicrwydd sy’n bodoli, dwi’n meddwl mai dyma’r peth iawn i’w wneud ac mai dyma’r penderfyniad gorau er mwyn sicrhau diogelwch ein plant, ein staff yn yr ysgolion a’r gymuned ehangach.”
Wrecsam
Mae Cyngor Wrecsam hefyd am wyro oddi ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, gan gyhoeddi heddiw (dydd Gwener 19 Mehefin) y byddai ysgolion ar agor am dair wythnos, yn hytrach na phedair, gan gau ar 17 Gorffennaf.