Mae hyd at 50 person yn cystadlu am bob swydd wag yn ardal Rhondda Cynon Taf, yn ôl astudiaeth.

Mae gwaith yr Institute for Employment Studies (IES) yn tynnu sylw at ddeg ardal cyngor sir yng ngwledydd Prydain lle mae 50 o bobol yn cystadlu am un swydd – ac ardal Rhondda Cyngor Taf yw’r unig le yng Nghymru sydd ar y rhestr.

Daw hyn wythnos wedi i ffigurau swyddogol ddangos bod 600,000 o bobol wedi colli swyddi rhwng mis Mawrth a mis Mai.

A daw hyn hefyd wedi i gyn-gadeirydd Awdurdod Datblygu Cymru ddweud y byddai ail don o’r pandemig coronafeirws yn “ddigon i ddinistrio economi Cymru”.

Bygythiad ail frig

Yn siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Syr Roger Jones bod yr economi yn dioddef, ond y gallai pethau fod yn waeth pe bai rheolau’n cael eu llacio’n rhy gynnar.

“Mae hyn yn mynd i gostio i ni,” meddai. “Os dy’ ni ddim yn cael dod ag ymwelwyr i Gymru mae hynny yn mynd i greu trafferthion i ni.

“Ond beth allai ddigwydd os nad ydym ni yn cadw pethau yn dynn? Y peth gwaetha allwn ni wneud yw cael second peak. Byddai hynny’n dinistrio economi Cymru.”