Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi cael “dipyn oram dam gan ffermwyr yr ynys am bleidleisio yn erbyn cynnal safonau bwyd fydd yn cael ei fewnforio ar ôl Brexit.

“Dw i’n meddwl ei bod hi wedi ein bradychu ni braidd,” meddai Cadeirydd undeb amaeth NFU Môn wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Ar hyn o bryd mae gwleidyddion yn trafod y Bil Amaeth, deddfwriaeth sy’n cael ei greu i reoli’r diwydiant amaeth yn y cyfnod ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae ffermwyr ledled gwledydd Prydain yn poeni fod gan y Bil Amaeth y potensial i’w gwneud yn bosib i fewnforio bwyd rhad, o safon is na’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu yma ar hyn o bryd.

Yr ofn yw na fydd ffermwyr Cymru yn medru cystadlu gyda phris cyw iâr a bîff o safon is fyddai yn dod yma o America, mewn cytundeb ôl-Brexit.

Mae dros filiwn o bobol wedi arwyddo deiseb yr NFU yn galw am warchod safonau bwyd.

Gwrthod y gwelliannau

Ym mis Mai roedd dau Aelod Seneddol Torïaidd wedi cynnig gwelliannau i’r Bil Amaeth, yn galw am sicrhau na fydd safonau bwyd sy’n cael ei fewnforio ar ôl Brexit yn is na’r hyn ydyn nhw nawr.

Ond fe gafodd y gwelliannau eu gwrthod, ac un o’r rhai wnaeth bleidleisio yn eu herbyn oedd Virginia Crosbie, AS Torïaidd Môn.

Brian Bown yw Cadeirydd undeb amaeth NFU Cymru ym Môn, ac mae yn siomedig bod ei Aelod Seneddol wedi pleidleisio yn erbyn y gwelliannau i’r Bil Amaeth.

“Maen rhyfedd i chi ffonio heddiw,” meddai wrth gylchgrawn Golwg, “ – dw i wedi cael llythyr o Dŷ’r Cyffredin ddoe gan Virginia Crosbie.

“Gafon ni, yn NFU Môn, gyfarfod (dros y We) efo hi pan ddaeth y Bil Amaeth i fyny yn San Steffan. Gafodd hi dipyn o ram dam gynnon ni,” meddai Brian Bown cyn mynd ati i adrodd cynnwys y llythyr swmpus dros y ffôn.

Ei grynodeb yw: “Mae hi’n trio rhoi rhesymau dwy a dimau dros beidio fotio amdan yr amendment – yn fy marn i jest waffl ydi o. Mae hi’n berson sy’n licio siarad lot – mae hi’n clywed ond ddim yn gwrando.

“Mae’r undeb yma yn Sir Fôn – dydyn ni ddim eisio disgyn allan efo hi, ond dydyn ni ddim yn hapus iawn efo beth mae hi wedi ei wneud. Dw i’n meddwl ei bod hi wedi ein bradychu ni braidd.”

Ymateb Virginia Crosbie

Mewn datganiad, fe ddywedodd Virginia Crosbie iddi sefyll yn yr etholiad ym Môn ar faniffesto’r Blaid Geidwadol sy’n rhoi’r addewid, meddai, “na fydd, yn ystod ein trafodaethau masnach, unrhyw gyfaddawd oddi wrth safonau uchel y Deyrnas Unedig, parthed diogelu’r amgylchedd, lles anifeiliaid, a safonau bwyd.

“Mae’r ddeddf berthnasol i adael Ewrop yn trosglwyddo’r holl ddarpariaethau presennol, sydd yn bodoli oddi mewn i’r Undeb Ewropeaidd, i mewn i lyfrau statudol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yr anghenion presennol ar fewnforio [sy’n cynnwys] gwaharddiadau ar ddefnyddio unrhyw hormon twf artiffisial mewn cynnyrch domestig, neu unrhyw gynnyrch sydd wedi ei fewnforio.

“Mae’r safonau hefyd yn gosod allan nad oes unrhyw eitem, gan gynnwys clorin, heblaw am ddŵr yfed, wedi ei gymeradwyo i ddadheintio carcasai dofednod (poultry).”

Mae’r stori yn llawn ar golwg+