Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi darganfod gwerth mwy na £3,000 o ganabis ar arfordir Sir Benfro.

Daw hyn wedi iddyn nhw gynnal cyrch ar dŷ yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, a dau dŷ yn Aberteifi ar Fehefin 18.

Cafodd gwerth £3,000 o ganabis ei ddarganfod mewn tŷ ym Maes y Mynydd, Trefdraeth, wedi i’r heddlu dorri mewn iddo am oddeutu 9.30 fore ddydd Iau (Mehefin 18).

Bu i’r heddlu ddarganfod canabis a phowdr gwyn yn yr ail dŷ ar Stryd Fawr Aberteifi a bydd y perchnogion yn cael eu cyfweld yn y dyddiau nesaf.

Ni chafodd unrhyw dystiolaeth o gyffuriau eu darganfod mewn cartref ym Mro Teifi, Aberteifi, meddai’r heddlu.

“Fe wnaethom weithredu mewn ymateb uniongyrchol i ofidion y gymuned a’r bygythiad mae cyffuriau dosbarth A yn peri i Dde Ceredigion,” meddai Ditectif Arolygydd Kaamil Garnie.

“Mae’n hanfodol bwysig ein bod wedi gweithredu er mwyn dangos i gymunedau ein bod yn gwrando ar eu gofidion, yn ogystal ag aflonyddu ar y defnydd a gwerthiant o gyffuriau yn yr ardal.”