Wrth siarad gyda golwg+, mae un o actorion gorau Cymru wedi galw am osod plac yn y Senedd yng Nghaerdydd, i gofio am y bobol gafodd eu carcharu wrth ymgyrchu tros hawliau i siaradwyr Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae Sharon Morgan – sydd wedi ennill tair gwobr BAFTA Cymru mewn gyrfa ddisglair – i’w gweld yn actio yn nrama deledu Gangs of London ar Sky.

Nôl yn 1988 fe gafodd hi ei harestio am dorri’r gyfraith tros yr iaith, a’i chadw am gyfnod byr mewn cell.

“Fe aethon ni i gelloedd yr heddlu am y prynhawn ar ôl paentio ‘Deddf Iaith Nawr’ ar wal y Swyddfa Gymreig,” eglura.“Fi a Diana Bianchi – a oedd yn clostroffobig – yn rhannu cell.

“A wnaethon nhw adael y drws ar agor i ni!”

Ond mae’r profiad o fod dan glo wedi gadael ei ôl ar yr actores.

“Roedd yn beth erchyll. Bydden i byth wedi gallu mynd [i garchar],” meddai Sharon Morgan.

“Dw i’n edmygu’r bobol yma fel Angharad Tomos a Ffred Ffransis. Rhyw ddwy fil o bobol i gyd wedi mynd i’r carchar dros yr iaith – ac mae angen i bobol wybod am hyn.

“Dyle bod plac yn y Cynulliad yn rhywle, achos mawr yw ein diolch iddyn nhw. Mae e’n anhygoel.

“Wrth edrych yn ôl, nawr, mae yn anodd credu faint o gasineb oedd tuag at yr iaith. Mae pethau wedi newid yn llwyr, diolch i’r drefn.”

Mwy gan Sharon Morgan am ei rôl ddiweddaraf yn actio dynes ddrwg o Ddenmarc yn Gangs of London, ar golwg+