Mae un o actorion gorau Cymru wedi galw am osod plac yn y Senedd yng Nghaerdydd, i gofio am y bobol gafodd eu carcharu wrth ymgyrchu tros hawliau i siaradwyr Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae Sharon Morgan – sydd wedi ennill tair gwobr BAFTA Cymru mewn gyrfa ddisglair – i’w gweld yn actio yn nrama deledu Gangs of London ar Sky.

Yn 1988 fe gafodd hi ei harestio am dorri’r gyfraith tros yr iaith, a’i chadw am gyfnod byr mewn cell.