Mae rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2020 wedi cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Mehefin 19) ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru.
Mae panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth wedi pleidleisio am eu ffefrynnau.
Ymysg y beirniaid roedd Elan Evans, Siân Eleri Evans, Huw Foulkes, Gwenan Gibbard, Dyl Mei, Siân Meinir, Gwyn Owen a Neal Thompson.
Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi yn ystod Gŵyl AmGen a gynhelir o 30 Gorffennaf – 2 Awst.
Yr artistiaid a’r albyms sydd ar y rhestr fer yw:
- 3 Hŵr Doeth – Hip Hip Hwre
- Ani Glass – Mirores
- Carwyn Ellis & Rio 18 – Joia!
- Cynefin – Dilyn Afon
- Georgia Ruth – Mai
- Gruff Rhys – PANG!
- Gwilym Bowen Rhys – Arenig
- Los Blancos – Sbwriel Gwyn
- Llio Rhydderch – Sir Fôn Bach
- Mr – Amen
- Yr Ods – Iaith y Nefoedd
“Braf cael bod fyny yna gyda heavyweights y sîn”
Dywed prif leisydd y band Los Blancos wrth golwg360 ei bod hi’n “neis cael rhyw fath o gydnabyddiaeth.
“Dw i’n falch ein bod ni ar y rhestr fer, ac mae hi’n braf cael bod fyny yna gyda heavyweights y sîn,” meddai Gwyn Rosser .
“Dw i ddim yn meddwl y byddwn ni’n ennill, ond fe wnaeth Groeg ennill Ewro 2004, felly pwy a ŵyr?”
Tra bod Griff Lynch o fand Yr Ods yn dweud ei fod yn falch o fod ar restr fer gyda “bandiau eraill dw i’n parchu.
“Mae yna albymau cryf ofnadwy o ran fy nhast personol i a phethau faswn i ddim yn gwrando arnyn nhw fel arfer,” meddai wrth golwg360.
“Mae albym Carwyn Ellis & Rio 18 yn sefyll allan i fi, gwych o albwm, ac mae 3 Hŵr Doeth ac Ani Glass hefyd yn sefyll allan fel darnau sydd â lot o waith wedi mynd mewn iddyn nhw.”
“Cynrychioli beth sy’n mynd ymlaen yng Nghymru”
Mae Ani Glass wedi dweud wrth golwg360 fod rhestr fer Albwm Gymraeg y Flwyddyn yn “cynrychioli beth sy’n mynd ymlaen yng Nghymru.
“Mae’n braf gweld gymaint o amrywiaeth a bod gan artistiaid a bandiau ddigon o hyder i roi cerddoriaeth wahanol allan,” ychwanegodd y gantores o Gaerdydd.
“Mae wedi bod ychydig yn overwhelming gweld y bandiau eraill sydd ar y rhestr a dweud y gwir, ond mae’n neis cael fy nhrafod ymysg y bandiau ag artistiaid yma.
“Ar ôl gymaint o siom i artistiaid yn ddiweddar, mae rhywbeth fel hyn codi calon ac yn rhoi hwb i chi fel artist.”