Bydd ysgolion Cymru yn ailagor yn llawn o fis Medi ymlaen – a hynny am y tro cyntaf ers dechrau’r argyfwng coronafeirws.

Fydd dim angen i ddisgyblion gadw pellter rhyngddyn nhw a phlant eraill yn eu dosbarth – neu ‘grŵp cyswllt’ – ond bydd yn rhaid i oedolion bellhau’n gymdeithasol.

“Bydd ysgolion yn ailagor yn llawn gyda lefel isel o bellhau cymdeithasol oddi fewn i ‘grwpiau cyswllt’,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw.

“Bydd oddeutu 30 o blant mewn ‘grŵp cyswllt’. Wrth gwrs, does dim modd osgoi rhywfaint o gymysgu rhwng plant o ‘grwpiau cyswllt’ gwahanol.

“Bydd yn rhaid i ysgolion gymryd mesurau eraill er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint.”

Creu swyddi

Ochr yn ochr â hyn mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £29m yn mynd tuag at greu 900 o swyddi dysgu newydd er mwyn helpu disgyblion â’u gwaith.

Ysgolion nad yw’n ysgolion preifat oedd dan sylw yn y gynhadledd, ac mi fydd rhagor o fanylion am yr ailagor yn cael eu cyhoeddi’r wythnos nesa’.

Dylai pob disgybl ddychwelyd “lle fo hynny’n bosib” o Fedi 1 ymlaen, yn ôl y gweinidog, ond bydd yna “bythefnos o hyblygrwydd”, meddai.

Daw’r cyhoeddiad bythefnos wedi i ysgolion Cymru ailagor ar Fehefin 29 am dair neu bedair wythnos cyn cau dros wyliau’r haf.

Beirniadu’r amseru

Mae’r Ceidwadwyr wedi croesawu’r newyddion ond wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â chyhoeddi’r newyddion yn gynt.

“Allwn ni fod wedi cael y cyhoeddiad yma wythnos yn ôl,” meddai Suzy Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig tros addysg.

“Roedd awdurdodau lleol ac athrawon yn ysu am sicrwydd. O leia’ mae’r Gweinidog wedi gwrando arnom ni – yn ogystal â miloedd o deuluoedd, athrawon, a’r Comisiynydd Plant – o’r diwedd.”

Dywedodd Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian, fod y cyhoeddiad “yn dderbyniol os nad yn hir-ddisgwyliedig”.

Ymateb yr Undebau

Mae undeb UNSAIN wedi rhoi croeso gofalus i’r cyhoeddiad ond wedi rhybuddio bod angen gofalu am y gweithwyr ysgol a fydd mewn peryg o gael eu heintio.

“Mae cogyddion, glanhawyr, gofalwyr, cynorthwywyr dysgu, staff gweinyddol, goruchwylwyr amser cinio, oll yn mynd i fod yn rhan ganolog o hyn ac mae’n bwysig cydnabod hynny,” meddai llefarydd.

“Yr aelodau staff yma sydd yn aml yn gweithio wyneb yn wyneb â disgyblion, ac yn agos iawn at oedolion eraill. Mae’n rhaid i’w diogelwch hwythau yn y gweithle fod yn flaenoriaeth.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Arweinwyr Ysgolion, Paul Whiteman: “Mae hon yn foment arwyddocaol ac rydym yn croesawu cyhoeddi’r cyngor gwyddonol sy’n sail i feddylfryd Llywodraeth Cymru.

“Ni ddylai unrhyw un danbrisio maint y dasg sydd ynghlwm wrth ailagor ein hysgolion yn llawn, fodd bynnag rydym yn croesawu cyfnod pontio i alluogi ysgolion i gael plant a staff yn ôl i’r arfer a’r gydnabyddiaeth nad oes dull un maint i fynd ati i ailagor ysgolion.”