Mae angen eglurder ynghylch sut bydd y diwydiant twristiaeth yn ailagor yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Cafodd atyniadau awyr agored eu hagor yng Nghymru ddydd Llun, a chafodd cyfyngiadau teithio eu codi. Erbyn diwedd yr wythnos mae disgwyl i letyau hunan-ddarpar ailagor.
Ond dyw hyn ddim yn gyfystyr ag aildanio’r diwydiant ymwelwyr yn llwyr, ac mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi galw am ragor o fanylion gan Lywodraeth Cymru.
“Mae’n bwysig iawn bod yna gynllun,” meddai. “Mae Cymru eisiau bod yn ôl ar ei thraed, mae angen iddi fod yn ôl ar ei thraed, ac mae angen arweiniad gan Brif Weinidog Cymru.
“Mae wedi bod yn eitha’ blêr hyd yma, mae’n rhaid i mi ddweud. Ond mae ganddo ddigon o amser i fynd i’r afael â’r blerwch fel bod twristiaeth yn medru ailddechrau.”
“Amserlen”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi amlinellu amserlen ar gyfer ailagor yr economi ymwelwyr yng Nghymru fesul cam. Bydd sector lletygarwch Cymru yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf, bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yr wythnos hon a bydd yn dibynnu a yw cyfraddau coronafeirws yn parhau i ddisgyn.
“Yn dibynnu ar yr adolygiad hwn, mae llety hunangynhwysol hefyd yn paratoi i agor ar ddydd Sadwrn.
“Nid ydym wedi gweld y diwedd ar y coronafirws. Mae’r camau rydym yn eu cymryd, sy’n seiliedig ar gyngor gwyddonol a meddygol, wedi’u cynllunio i leihau lledaeniad y firws ac i helpu i achub bywydau.
“Bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi canlyniad yr adolygiad nesaf ddydd Gwener.”