Dylai Cymru barhau i gydweithio â gweddill y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau cyflenwadau bwyd cadarn.

Dyna ddywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, gerbron un o bwyllgorau Senedd Cymru fore heddiw (Dydd Iau, Gorffennaf 9).

Yn ystod y sesiwn craffu, cododd cwestiynau ynghylch cyflenwadau bwyd yng Nghymru ac effaith yr argyfwng coronafeirws arnynt.

Cyfeiriwyd at y problemau a fu ar ddechrau’r argyfwng, a daeth awgrym y byddai’n werth i Gymru ganolbwyntio’n fwy ar fuddiannau ei hun. Wfftiodd y gweinidog hynny.

“Eto, dw i’n credu dylai’r Deyrnas Unedig ymateb ar y cyd,” meddai gerbron y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

“Yn rheolaidd, mae cynrychiolwyr o’r pedair llywodraeth yn trafod [diogelwch bwyd] pan rydym ni’n cyfarfod. Er gan amlaf gwnawn hynny yng nghyd-destun Brexit heb ddêl…

“Dw i’n credu mai trafod hyn ar lefel y Deyrnas Unedig sydd orau.”

Prynu panig

Wrth siarad â’r pwyllgor, wnaeth y gweinidog herio’r syniad bod y cyflenwadau bwyd wedi “methu” yng Nghymru ar ddechrau’r argyfwng – pan oedd ‘prynu mewn panig’ ar ei hanterth.

Ac roedd ganddi ganmoliaeth i’r archfarchnadoedd â’u hymateb i’r argyfwng.

“Dw i ddim yn credu bod pethau wedi methu,” meddai. “Roedd yna brynu panig i ddechrau, ac roedd hynna’n sioc i’r archfarchnadoedd.

“Ond dw i’n credu wnaethon nhw gamu i’r adwy yn gyflym iawn. Wnaethon nhw hyfforddi rhagor o staff, a sicrhau diogelwch i’w staff…

“Dw i’n credu wnaethon nhw jobyn cyflym o sicrhau bod y cyflenwad yn normal unwaith eto.”