Mae Ofgem wedi rhoi addewid i wella buddsoddiad mewn ynni gwyrdd yn ogystal â lleihau biliau cwsmeriaid.
Dywed y corff y bydd pob cartref yn arbed £20 y flwyddyn ar ei biliau nwy a thrydan yn sgil y cynlluniau, a fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf.
Fodd bynnag, mae’r cynnig wedi cael ei feirniadu gan rai o gwmniau ynni mwyaf Prydain, fydd yn gorfod ymdopi â’r gost.
Mae’r corff yn dadlau y bydd cwmnïau a buddsoddwyr dal yn fodlon darparu arian i fuddsoddi mewn gwelliannau i’r system gan fod rhwydweithiau ynni’r Deyrnas Unedig yn fuddsoddiad sydd â risg isel.
Yn y cyfamser, mae Ofgem am rhoi £25 biliwn o’r neilltu ar gyfer buddsoddi mewn rhwydweithiau ynni’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cynnal gan y Grid Cenedlaethol.
Bydd pecyn hefyd o tua £10 biliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer buddsoddi mewn ynni glan, ond bydd gofyn i gwmnïau wneud ceisiadau ‘fesul prosiect’.
Gallai rhagor o arian gael ei fuddsoddi os yw Ofgem yn derbyn cynigion digonol.
Bydd ofgem hefyd yn neilltuo £630 miliwn o gyllid er mwyn annog ymchwil newydd a datblygiad mewn ynni gwyrdd.
Cwmnïau ynni’n anhapus
Mae’r newyddion wedi cythruddo rhai o’r cwmnïau fydd yn cael eu taro waethaf gan y cyhoeddiad.
Bydd y Grid Cenedlaethol yn galw am newidiadau fydd yn annog buddsoddiad a gwarchod cwsmeriaid cyn penderfyniad terfynol Ofgem fis Rhagfyr.
“Rydym yn hynod siomedig gyda’r drafft hwn, sy’n tanseilio’r broses sydd wedi cael ei sefydlu gan Ofgem,” meddai’r Grid Cenedlaethol.
Tra bod cwmni SSE wedi dweud ei fod yn “siomedig ac yn hynod ofidus” yn sgil y cyhoeddiad.
Fodd bynnag, mae prif weithredwr Cyngor ar Bopeth Y Fonesig Gillian Guy yn croesawu’r cynllun drafft.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam arall tuag at reoli pris ynni a stopio chwmnïau rhag codi biliynau o bunnoedd yn ormod ar gwsmeriaid,” meddai.
Dywed prif weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley fod “Ofgem yn gweithio tuag at system fwy gwyrdd a thecach i’w cwsmeriaid”.
Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud fis Rhagfyr ar ôl i’r cwmnïau gael cyfle i roi adborth.