Mae Plaid Cymru wedi dweud ei bod yn siomedig gyda pherchnogion cwmni Northwood Hygiene Products yn dilyn eu penderfyniad i gau eu ffatri ym Mhenygroes.
Daeth cyhoeddiad ar Fai 26 y byddai’r ffatri yn Nyffryn Nantlle, sy’n cyflogi 94 o bobol, yn cau o ganlyniad i gwymp sylweddol mewn gwerthiant yn sgil y coronafeirws.
Nid oes tro-pedol wedi bod ar y penderfyniad i gau’r ffatri, er gwaethaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth ariannol yn dilyn trafodaethau lleol.
“Ergyd anferth”
Mewn cyfarfod o’r Senedd ddydd Mercher (Gorffennaf 9), diolchodd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, y Llywodraeth am gynnig cefnogaeth ariannol i achub y ffatri.
“Yn anffodus mae’r cwmni wedi gwrthod y cynnig hwnnw am resymau masnachol, ac maen nhw’n bwrw ymlaen i ddiswyddo’r 94 gweithiwr, sydd yn ergyd anferth,” meddai.
Nawr, mae Siân Gwenllian am weld defnydd newydd i’r ffatri, gydag ymdrech i ddod o hyd i berchennog newydd ar gyfer y safle.
Dywedodd Siân Gwenllian bod “94 o swyddi yn Nyffryn Nantlle yn gyfwerth â miloedd o swyddi mewn rhannau mwy poblog o Gymru”, ac yn “haeddu’r un ymdrech a’r un sylw” gan Lywodraeth Cymru.