Yn Hong Kong, mae’r gŵr busnes Jimmy Lai wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyd-gynllwynio gyda grymoedd tramor, yn ôl ei ymgynghorydd Mark Simon.

Cafodd Jimmy Lai ei arestio yn ei gartref yn Kowloon gan swyddogion yr heddlu a’i gludo i orsaf yr heddlu.

Dywed heddlu Hong Kong bod saith o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dorri rheolau’r gyfraith ddiogelwch cenedlaethol ond nid ydyn nhw wedi datgelu enwau’r rhai sydd wedi’u harestio.

Mae’r heddlu hefyd wedi gwrthod diystyru arestio rhagor o bobl o dan y gyfraith newydd a ddaeth i rym ar Fehefin 30. Mae’n cael ei weld fel modd o reoli’r rhai sy’n anghytuno a’r llywodraeth yn sgil protestiadau mawr yn Hong Kong y llynedd.

Jimmy Lai yw perchennog y papur newydd Apple Daily, ac mae’n llefarydd brwd dros ddemocratiaeth yn Hong Kong, ac yn aml yn beirniadu rheolaeth Tsieina.

Yn ôl Mark Simon roedd yr heddlu wedi chwilio cartref Jimmy Lai a’i fab yn ogystal ag aelodau eraill y grŵp Next Digital. Jimmy Lai yw sylfaenydd y grŵp a gafodd ei sefydlu yn 1995.

Roedd 100 o swyddogion yr heddlu wedi cynnal cyrch ar bencadlys Next Digital yn Hong Kong, sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r papur Apple Daily.