Mae tri chamera newydd yn cael eu gosod yng Nghastell Newydd Emlyn fel rhan o adduned allweddol Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys i ail-fuddsoddi mewn system teledu cylch cyfyng gyhoeddus.

Bydd y gwaith ar osod y system yn y dref yn dechrau heddiw (dydd Llun, Awst 10).

Bydd camerâu yn cael eu gosod yn Stryd Sycamorwydden, Sgwâr Emlyn a Heol y Bont. Penderfynwyd ar leoliadau’r camerâu yn dilyn adolygiad o ddadansoddiad o batrymau troseddu ac mewn ymgynghoriad ag asiantaethau partner.

Diogelu

“Aberhonddu yw’r dref nesaf ym Mhowys i elwa o’m haddewid etholiadol allweddol i ail osod teledu cylch cyfyng gofod cyhoeddus,” meddai’r Comisiynydd Heddlu a throsedd Dafydd Llywelyn.

“Mae’r prosiect CCTV yn parhau ar draws yr heddlu, gyda thri chamera hefyd wedi eu gosod yng Nghastell newydd Emlyn.

“Rwy’n hyderus y bydd y camerâu yn gaffaeliad gwerthfawr i gadw’r trefi hyn yn ddiogel a helpu i ganfod troseddu.”

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Robyn Mason fod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i Gastell Newydd Emlyn.

“Bydd cael y camerâu yn eu lle tra byddwn yn profi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’r ardal yn ystod cyfnod y gwyliau yn ein helpu i gadw pawb mor ddiogel â phosibl ac yn ein cynorthwyo i gynnal ymchwiliadau o safon pan fo angen. ”

Mae’r prosiect CCTV yn dod â dros 120 o gamerâu CCTV i drefi ledled ardal heddlu Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys.