Bydd campfeydd, pyllau nofio, canolfannau hamdden a stiwdios ffitrwydd dan do yn gallu ailagor yng Nghymru heddiw (Dydd Llun, Awst 10), fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i lacio’r cyfyngiadau coronafeirws ymhellach.

Bydd mannau chwarae dan do i blant hefyd yn cael agor eu drysau, ond bydd yn rhaid i rai cyfleusterau na ellir eu glanhau’n hawdd, gan gynnwys pyllau peli, barhau i fod ar gau.

Bydd y newidiadau diweddaraf i reoliadau coronafeirws yng Nghymru yn dod i rym wythnos ar ôl i dafarndai a bwytai yn y wlad allu agor dan do am y tro cyntaf ers dechrau’r cyfyngiadau ym mis Mawrth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad ei bod yn “parhau i archwilio” a ellid caniatáu i bobl gwrdd ag eraill dan do nad ydyn nhw eisoes yn rhan o’u haelwyd estynedig o 15 Awst.

‘Hanfodol’

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod dilyn y rheolau yn “hanfodol” pe bai’r wlad i osgoi dilyn rhannau eraill o’r byd a gorfod tynhau’r cyfyngiadau unwaith eto.

“Wrth i fwy o rannau o’n cymdeithas a’n heconomi ailagor,” meddai, “mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn cadw mewn cof ein cyfrifoldeb personol i wneud y peth iawn a gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i amddiffyn ein hunain ac eraill rhag y firws.

“Mae hyn yn golygu cadw pellter o ddau fetr oddi wrth eraill, golchi ein dwylo yn aml a gwisgo mwgwd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r rhain yn gamau syml i gymryd er budd pawb.

“Nid yw’r rheolau sydd gennym ar waith yn ddewisol, mae’n nhw yno i’n diogelu ni i gyd. Maen nhw’n hanfodol os yw Cymru am osgoi clo arall. ”

Ychwanegodd: “Fel y gwelsom mewn llawer o fannau ledled y byd, mae’r pandemig hwn ymhell o fod drosodd a rhaid inni fod yn wyliadwrus. Mae’n bosib y gallai achosion risg sylweddol yng Nghymru gynyddu eto a bydd yn rhaid i ni gymryd camau pellach pe bai hyn yn digwydd.

“Dim ond ein bod ni i gyd yn parhau i wneud ein rhan allwn ni gadw Cymru’n ddiogel.”

Erbyn heddiw, mae nifer yr achosion o’r coronafirws yng Nghymru yn 17,451, gyda nifer y marwolaethau yn 1,579.