Mae’r coronafeirws wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol yng Nghymru drwy leihau incwm a chynyddu’r risgiau i grwpiau o bobl sydd eisoes o dan anfantais.

Dyna gasgliad adroddiad gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd sydd wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac yn galw am “weithredu ar unwaith”.

Mae ymchwiliad y pwyllgor, sy’n canolbwyntio ar effaith y pandemig, wedi tynnu sylw at y ffaith bod y tebygolrwydd o farw, colli swyddi neu syrthio ar ei hôl hi mewn addysg yn dibynnu’n rhannol ar oedran, hil, rhyw, anabledd, incwm a lle mae pobl yn byw.

Yn ogystal â gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru mae’r pwyllgor hefyd yn rhybuddio ei bod yn bwysig dysgu gwersi er mwyn osgoi ailadrodd camgymeriadau, rhag ofn y bydd ail don o’r haint.

Angen “gweithredu ar unwaith”

Pwysleisiodd llawer o’r rhai oedd wedi rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad fod angen gweithredu ar unwaith, yn hytrach na chreu rhagor o strategaethau, meddai’r adroddiad. Mae’r pwyllgor yn credu bod yn rhaid i gynllun adfer Llywodraeth Cymru gael ei dargedu at y rhai sydd wedi dioddef y colledion mwyaf.

Yn ôl yr adroddiad, mae’r pandemig wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw’r data sydd ar gael o ansawdd digonol o ran cyflogaeth, na chanlyniadau iechyd. Er mwyn deall y problemau sydd wedi’u hachosi gan y pandemig, ac i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, mae’r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i gasglu data gwell a chynnal gwaith ymgysylltu gyda dinasyddion er mwyn sicrhau bod ymyriadau’n cael eu targedu ac nad ydyn nhw’n creu rhwystrau ychwanegol.

“Cymorth a chyngor”

Mae’r pandemig wedi cael “effaith drychinebus” ar economi Cymru, meddai’r pwyllgor, gyda gweithwyr yn colli incwm drwy gael eu rhoi ar ffyrlo, toriadau mewn oriau neu gyflogau, colli swyddi a llawer o fusnesau wedi gorfod cau gan golli incwm sylweddol.

Gan fod Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i ben ym mis Hydref, mae’n debygol y bydd llawer o weithwyr ‘ffyrlo” yn cael eu diswyddo, meddai’r adroddiad gan bwysleisio ei bod yn “hanfodol” bod y bobl hyn yn gallu cael cymorth a chyngor ynghylch eu hawliau cyflogaeth a budd-daliadau.

Cymru “decach”

“Mae effaith Covid-19 wedi taro Cymru’n galed ac wedi effeithio ar grwpiau sydd eisoes dan anfantais yn y gymdeithas mewn modd anghyfartal. Rhaid inni ddysgu gwersi o’r hyn sydd wedi digwydd a gweithredu’n gyflym i gefnogi’r rhai sydd wedi eu taro galetaf,” meddai John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, am yr adroddiad.

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhywfaint o gymorth, mae’r dystiolaeth a gasglwyd gennym yn dangos bod yn rhaid i’r ymrwymiad hwn i gydraddoldeb a hawliau dynol symud y tu hwnt i’r sefyllfa uniongyrchol a dechrau cynllunio ar gyfer Cymru decach.”

“Anghydraddoldebau”

Ychwanegodd John Griffiths: “Ynghyd â mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, mae’r cyfnod hwn wedi taflu goleuni anghyfforddus ar anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli yn ein cymdeithas.

“Bydd cynllun ‘ffyrlo’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i ben yn fuan a gallai llawer o bobl golli eu swyddi pan fydd hyn yn digwydd.  Mae’n hanfodol bod pobl yn ymwybodol o’u hawliau a’r cymorth sydd ar gael i’w hatal rhag mynd i anawsterau wrth i ni symud at gam nesaf yr argyfwng.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith, yn hytrach na chreu rhagor o strategaethau.”