Mae elusen yn dweud eu bod nhw’n gofidio am les ffoaduriaid yn Calais sydd wedi’u gadael “wedi blino, yn llawn ofn a heb wybod ble i droi”.
Yn ôl gweithwyr elusennol Care4Calais yng ngogledd Ffrainc, mae symud ffoaduriaid yn barhaus yn arwain at gynnydd mewn ymdrechion i groesi’r Sianel mewn cychod bach.
Maen nhw’n dweud mai “cyfle i ailadeiladu eu bywydau” mae’r ffoaduriaid am ei gael.
Mae’r rhan fwyaf yn byw mewn amodau peryglus sydd wedi gwaethygu yn sgil y coronafeirws.
Dywed Clare Moseley, sylfaenydd Care4Calais nad yw’r ffoaduriaid “mewn unrhyw ffordd yn fygythiad” i neb.
“Dw i wedi bod yn Calais ers pum mlynedd ond bob dydd, dw i’n clywed straeon newydd gan bobol sydd wedi colli eu teuluoedd mewn brwydrau, wedi cael eu harteithio o dan gyfundrefnau llym neu wedi’u herlid am eu credoau gwleidyddol neu grefyddol,” meddai.
“Dydyn nhw byth yn dewis gadael eu cartrefi a phopeth maen nhw’n ei wybod; mae ffoaduriaid yn cael eu gorfodi i ffoi gan ddigwyddiadau ofnadwy y tu hwnt i’w rheolaeth.
“Mae galwadau Priti Patel [Ysgrifennydd Cartref San Steffan] am ragor o weithredu wedi arwain at gyrchoedd dyddiol gan yr heddlu sydd wedi gadael pobol wedi blino, yn llawn ofn a heb wybod ble i droi.
“Dydyn nhw ddim yn deall pam eu bod nhw’n cael eu trin yn y ffordd yma; dydyn nhw ddim wedi torri unrhyw gyfraith nac wedi gwneud unrhyw niwed, a dim ond cyfle i ailadeiladu eu bywydau maen nhw ei eisiau.”
Ond mae Pierre-Henri Dumont, aelod seneddol Calais, yn wfftio’r cyswllt rhwng symud ffoaduriaid a’r cynnydd mewn ymdrechion i groesi’r Sianel.
Mae’n dweud mai “cyfraith a ffordd o fyw Prydain” sy’n bennaf gyfrifol, ac y byddai’n well ganddyn nhw fyw’n gyfrinachol yng ngwledydd Prydain na cheisio lloches yn Ffrainc.