Mae aelod seneddol Fine Gael wedi awgrymu sefydlu prifysgol drawsffiniol yn Iwerddon er cof am y gwleidydd John Hume, fu farw’n 83 oed yr wythnos ddiwethaf.
Roedd cyn-arweinydd yr SDLP yn weithgar o blaid heddwch.
Yn ôl cynnig Colm Burke, byddai gan y brifysgol gampysau yn Derry a Donegal, y naill yng Ngogledd Iwerddon a’r llall yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Mae’n dweud y byddai’n “deyrnged briodol” am fod John Hume am weld “dyfodol mwy llewyrchus i bobol ifanc yr ynys hon”, ac y gellid tynnu sawl coleg yn rhan o’r brifysgol hefyd, a’r rheiny’n cynnwys campws Magee ym Mhrifysgol Ulster, Sefydliadau Technoleg Letterkenny a Sligo a Choleg Rhanbarthol y Gogledd-orllewin yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’n ffyddiog y byddai’r brifysgol yn denu cryn arian gan fod John Hume mor uchel ei barch ar draws y byd, ac yntau wedi bod yn weithgar hefyd o blaid sefydlu prifysgol yn Derry, sy’n gartref i gampws Magee.