Fe wnaeth Gwylwyr y Glannau ymateb i 340 o ddigwyddiadau yng ngwledydd Prydain ddoe (dydd Sadwrn, Awst 8) – y nifer fwyaf mewn un diwrnod ers dros bedair blynedd.

Roedd hyn yn gynnydd o 145% o gymharu â chyfartaledd y galwadau a gafodd eu derbyn drwy gydol mis Awst y llynedd, ac mae’n uwch na’r diwrnod prysuraf dros y blynyddoedd diwethaf, pan wnaethon nhw ymateb i 329 o achosion ar Orffennaf 31 eleni.

Roedd 221 o’r digwyddiadau ddoe ar yr arfordir.

Cafodd yr RNLI a badau achub annibynnol eu galw gyda’i gilydd 155 o weithiau, ac roedd 30 o achosion yn gofyn am ddefnyddio hofrennydd.

Fe wnaeth Gwylwyr y Glannau ymateb i 186 o alwadau 999, gan gydlynu ymatebion chwilio ac achub i ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys plant yn cael eu gwthio allan i’r môr.

Bu’n rhaid iddyn nhw achub 146 o bobol, a rhoi cymorth i 371 yn rhagor.

Rhybudd

Mae Gwylwyr y Glannau yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus os ydyn nhw’n mentro allan yn y tywydd braf.

“Rydym yn deall fod pobol eisiau cael hwyl ar yr arfordir a mwynhau’r tymheredd uchel, ond rydym yn annog pawb i barchu’r môr a chymryd cyfrifoldeb wrth helpu i sicrhau eu diogelwch eu hunain, eu ffrindiau a’u teulu,” meddai Richard Hackwell, Dirprwy Bennaeth Gweithrediadau Arfordirol Gwylwyr y Glannau.

Mae’n annog pobol i gynllunio ymlaen llaw ac i sicrhau bod modd cysylltu â Gwylwyr y Glannau mewn argyfwng.

Ond mae hefyd yn atgoffa pobol i beidio â rhoi eu hunain, a Gwylwyr y Glannau, mewn sefyllfa lle bydd angen cymorth.

“Cymerwch ofal ychwanegol ar yr arfordir heddiw a thros y dyddiau i ddod,” meddai.

“Dydyn ni ddim eisiau i chi gofio eich diwrnod allan am y rhesymau anghywir.”