Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am wrthdrawiad yn Aberdâr ar ôl i ddyn gael ei gludo i’r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r gwrthdrawiad un cerbyd ar ffordd A4059 ger McDonald’s ar ffordd A4233 am oddeutu 11.50 neithiwr (nos Sadwrn, Awst 8).

Cafodd gyrrwr car Peugeot 107 lliw du ei anafu ar ôl taro arwydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101.