Bydd ffatri prosesu cig yn sir Kildare yn Iwerddon ynghau am bythefnos ar ôl i ddwsinau o weithwyr brofi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Daeth gwaith ar safle O’Brien’s Fine Foods yn Timahoe i ben yr wythnos ddiwethaf yn dilyn 87 o brofion positif.

Mae rhagor o gyfyngiadau wedi’u cyflwyno yn siroedd Kildare, Laois ac Offaly yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion yno.

Yn ôl Stephen Donnelly, Gweinidog Iechyd Iwerddon, byddai’n amhriodol cadw’r safleoedd dan sylw ar agor tra bod pobol eraill dan gyfyngiadau.

Cafodd 174 o achosion newydd eu hadrodd gan yr awdurdodau yn Iwerddon ddoe (dydd Sadwrn, Awst 8) – roedd 110 yn Kildare, saith yn Nulyn, Cork ac Offaly a chwech ym Meath.

Yn ôl un o benaethiaid iechyd y wlad, doedd yr achosion ddim yn annisgwyl.