Mae Gweinidog Gwybodaeth Libanus wedi ymddiswyddo yn dilyn y ffrwydrad yn Beirut ar ddechrau’r wythnos.

Daw ymadawiad Manal Abdel-Samad wrth i drigolion y wlad droi ar y llywodraeth, sy’n cael y bai am lygredigaeth sydd, o bosib, wedi arwain at y digwyddiad.

Roedd cemegion wedi cael eu storio mewn warws ac fe gafodd o leiaf 160 o bobol eu lladd pan aeth ar dân ac achosi ffrwydrad, gan anafu bron i 6,000 o bobol.

Cafodd cannoedd o adeiladau eu dinistrio yn y ffrwydrad.

Protestiadau

Dywedodd Manal Abdel-Samad yn ei llythyr yn ymddiswyddo nad yw’r sefyllfa yn y wlad yn debygol o newid yn sgil y ffrwydrad.

Cafodd protestiadau eu cynnal ddoe (dydd Sadwrn, Awst 8) wrth i brotestwyr ddal rhaffau er mwyn i’r llywodraeth grogi eu hunain.

“Ymddiswyddwch neu grogi” oedd eu neges.

Fe wnaeth y protestiadau droi’n dreisgar wrth i’r protestwyr daflu cerrig at swyddogion diogelwch, oedd wedi gorfod defnyddio nwy dagrau a bwledi rwber i’w tawelu.

Cafodd un plismon ei ladd a dwsinau o bobol eu hanafu cyn i’r protestwyr geisio mynediad i adeiladau gweinidogion y llywodraeth gan feddiannu’r Weinyddiaeth Dramor am gyfnod byr gan fynnu mai yn y fan honno y byddai eu pencadlys.

Fe wnaethon nhw hefyd feddiannu dogfennau cyhoeddus, gan rybuddio y bydden nhw’n cyhoeddi llygredigaeth sawl llywodraeth yn hanes y wlad.

Mae pump o weinidogion wedi ymddiswyddo ers ddoe (dydd Sadwrn, Awst 8), ac mae disgwyl i ragor gamu o’r neilltu.

Mae modd darllen mwy am y protestiadau yma.