Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch a cherbyd sgïo dŵr ym Mhorthaethwy.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 7.30 neithiwr (nos Sadwrn, Awst 8).

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty, ond bu farw wedyn.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.