Mae trigolion Belarws yn bwrw eu pleidlais heddiw (dydd Sul, Awst 9) i benderfynu a fydd yr Arlywydd Alexander Lukashenko yn cael chweched tymor wrth y llyw.

Daeth e i rym 26 o flynyddoedd yn ôl, ac mae e eisoes wedi dweud y bydd e’n tawelu unrhyw brotestiadau yn erbyn canlyniad y bleidlais.

Mae nifer fawr o drigolion y wlad yn anfodlon ynghylch economi’r wlad, ymdriniaeth y llywodraeth o’u gwrthwynebwyr ac ymateb gwan y wlad i’r pandemig coronafeirws.

Mae pennaeth staff Sviatlana Tsikhanouskaya, prif wrthwynebydd yr wrthblaid yn y ddalfa ers neithiwr (nos Sadwrn, Awst 8) am gymryd rhan mewn protestiadau anghyfreithlon.

Mae lle i gredu bod Sviatlana Tsikhanouskaya hithau hefyd yn gofidio am ei diogelwch a’i bod hi wedi treulio’r noson oddi cartref.

Hi yw prif ymgeisydd yr wrthblaid ar ôl i ddau ymgeisydd blaenorol gael eu hatal rhag sefyll, gydag un ohonyn nhw’n cael ei garcharu a’r llall wedi ffoi o’r wlad rhag cael ei arestio.

Mae pryderon eisoes y bydd y canlyniadau’n cael eu trefnu gan na fu neb yn edrych ar ôl y blychau pleidleisio ers sawl noson a does neb wedi cael gwahoddiad i oruchwylio’r broses.

Allan o boblogaeth o 9,500,000 fe fu dros 68,500 o achosion o’r coronafeirws a 580 o farwolaethau, ond mae’r llywodraeth yn cael eu cyhuddo o ostwng y ffigurau swyddogol.

Daeth adroddiadau i’r fei fis diwethaf fod yr arlywydd wedi’i heintio, ond fe wnaeth e wella’n gyflym heb symptomtau.

Fe fu’n rhaid iddo amddiffyn ei ymateb i’r pandemig, gan ddweud y byddai wedi dinistrio’r economi.

Tensiwn rhwng Belarws a Rwsia

Mae’r etholiad wedi amlygu’r tensiwn cynyddol rhwng Belarws a Rwsia.

Cafodd 33 o gontractwyr o Rwsia eu harestio yr wythnos ddiwethaf ar amheuaeth o gynllwynio protest.

Pan lofnododd y ddwy wlad gytundeb yn 1996, roedd yn sail i obeithion Alexander Lukashenko ddod yn arweinydd gwladwriaeth unedig wrth i iechyd Boris Yeltsin, arlywydd Rwsia, ddirywio.

Ond daeth Vladimir Putin i rym yn Rwsia yn 2000 a cheisio cryfhau eu dylanwad, ac fe wnaeth Belarws ymateb yn chwyrn wrth i’r berthynas waethygu.