Mae Asthma UK a Sefydliad yr Ysgyfaint Prydain yng Nghymru yn galw am fwy o gefnogaeth i helpu’r rhai sydd wedi bod yn cysgodi rhag y coronafeirws.
Bydd y cyngor yn dod i ben ar Awst 16.
O blith y 344 o bobol sydd â chyflwr yr ysgyfaint a gafodd eu holi fel rhan o arolwg, dywedodd 59% ohonyn nhw eu bod nhw’n gofidio wrth i’r cyngor i gysgodi ddod i ben.
Mae eu pryder am y sefyllfa wedi codi dros 50% ers mis Mai.
Roedd 62% o’r farn fod y cyfyngiadau wedi cael eu llacio’n rhy fuan, gyda 3% yn unig yn dweud iddo ddigwydd yn rhy araf.
Mae 58% o’r farn fod cysgodi wedi dod i ben yn rhy fuan, a 2% yn teimlo’i fod wedi digwydd yn rhy araf.
Mae Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydain yng Nghymru’n galw am fwy o gefnogaeth i bobol sy’n dymuno cysgodi y tu hwnt i’r dyddiad sydd wedi’i bennu.
‘Dim un ateb i bawb’
“Yr hyn y mae’r ffigurau hyn yn ei ddangos yw fod y mwyafrif o bobol sy’n cysgodi’n poeni am gyflymdra’r datblygiadau,” meddai Joseph Carter, pennaeth Asthma UK a Sefydliad yr Ysgyfaint Prydain yng Nghymru.
“Tra ei fod yn dda ein bod ni’n gallu dechrau llacio’r cyfyngiadau, mae’n bwysig cofio nad yw’n sefyllfa lle mae un ateb i bawb.
“Rhaid i ni ystyried sut mae’r rhai sy’n cysgodi… yn teimlo am y sefyllfa hon a sicrhau ein bod ni’n eu cefnogi nhw.
“Gyda chynnydd eto mewn achosion tu hwnt i’r ffin yn Lloegr, mae hi ond yn iawn fod pobol yn bryderus ac nad ydyn nhw o reidrwydd yn barod i roi’r gorau i gysgodi nawr.
“Mae’r gefnogaeth sydd wedi’i chynnig hyd yn hyn wedi bod yn hanfodol wrth eu galluogi nhw i aros yn ddiogel ac iach, ond rhaid i ni sicrhau bod y gefnogaeth hon yn parhau.
“Rhaid i ni beidio â chaniatáu i bobol fynd yn ynysig a chael eu gorfodi i ddychwelyd i’r gwaith neu i roi’r gorau i gysgodi cyn eu bod nhw’n teimlo’i bod yn ddiogel.
“Gydag wythnos yn weddill cyn i gysgodi ddod i ben, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithredu’n gyflym i fynd i’r afael â’r pryderon hyn ac yn helpu i gadw pobol yn ddiogel.”