Mae o leiaf 30 o bobol wedi marw, ac mae 12 ar goll, yn dilyn tirlithriadau a llifogydd yn Ne Corea.
Fe ddaw yn sgil sawl diwrnod o law trwm yn ne’r wlad.
Collodd mwy na 3,700 o bobol eu cartref dros gyfnod o ddau ddiwrnod ddiwedd yr wythnos, wrth i gartrefi, ffyrdd a ffermydd ddiodde’n ddifrifol.
Mae disgwyl rhagor o law yn ardal y brifddinas Seoul heddiw (dydd Sul, Awst 9).
Mae sawl ardal wedi gweld tair neu bedair gwaith yn fwy o law na’r cyfartaledd dros y 30 mlynedd diwethaf.