Mae Mahinda Rajapaksa, cyn-Arlywydd Sri Lanca, wedi dod yn brif weinidog ac wedi tyngu llw am y pedwerydd tro yn dilyn buddugoliaeth ei blaid yn yr etholiadau cenedlaethol.

Mae’n frawd i’r Arlywydd Gotabaya Rajapaksa, ac fe wnaeth e dyngu llw mewn teml ar gyrion y brifddinas Colombo.

Mahinda Rajapaksa oedd arlywydd y wlad rhwng 2005 a 2015, ac fe gafodd ei ganmol yn eang gan y gymuned Sinhalaidd am ddod â rhyfel cartref i ben ar ôl chwarter canrif yn 2009.

Cafodd ei ethol yn brif weinidog am y tro cyntaf yn 2004, ac roedd e wrth y llyw am gyfnodau byr yn 2018 a 2019.

Enillodd plaid y brodyr Rajapaksa 145 o seddi yn y senedd 225 sedd, gyda’r brif wrthblaid ond yn cipio 54.

Maen nhw bellach o fewn trwch blewyn i sicrhau cefnogaeth dau draean o aelodau er mwyn cyflwyno newidiadau i gyfansoddiad y wlad.

Mae tri aelod arall o’r teulu hefyd wedi’u hethol.