Mae 11 o gleifion coronafeirws wedi cael eu lladd mewn tân mewn gwesty sy’n cael ei ddefnyddio fel ysbyty dros dro yn ne India.

Dyma’r ail ddigwyddiad o’r fath mewn pedwar diwrnod.

Fe ddigwyddodd yn ninas Vijayawada yn nhalaith Andhra Pradesh yn oriau man y bore.

Cafodd 22 o bobol eu cludo i’r ysbyty, yn ôl yr heddlu, sy’n dweud mai tân trydanol oedd e.

Mae’r prif weinidog Narendra Modi wedi addo cefnogi’r rhai sydd wedi goroesi’r digwyddiad.

Ddydd Iau (Awst 6), cafodd wyth o bobol eu lladd mewn tân yn uned gofal dwys ysbyty coronafeirws yn Amhedabad.