Mae miloedd o bobol wedi bod yn protestio yn Beirut yn dilyn y ffrwydrad ar ddechrau’r wythnos, gan gludo rhaffau fel symbol o’r dymuniad i grogi’r awdurdodau.

Penaethiaid y wlad, sy’n gyn-benaethiaid milwrol yn bennaf, sy’n cael y bai am y digwyddiad yn sgil llygredigaeth, anallu a cham-reoli.

Mae tri o wleidyddion yr wrthblaid Kataeb wedi ymddiswyddo yn sgil y “trychineb”, ac mae Sami Gemayel, llywydd y blaid, yn galw ar bob gwleidydd “anrhydeddus” i ymddiswyddo o’r senedd a chydweithio i greu “Libanus newydd”.

Cafodd o leiaf 154 o bobol eu lladd yn y ffrwydrad, a mwy na 5,000 o bobol eu hanafu.

Roedd 43 o bobol o Syria yn eu plith, gydag oddeutu miliwn o ffoaduriaid o’r wlad yn byw yn Libanus.

Mae lle i gredu bod y ffrwydrad – y mwyaf yn hanes y wlad – wedi achosi hyd at 15bn o ddoleri o ddifrod, ac mae cannoedd o filoedd o bobol wedi’u gadael yn ddigartref.

Ac mae Libanus hefyd yng nghanol ei hargyfwng economaidd ac ariannol gwaethaf ers degawdau, sy’n ei gwneud hi’n anodd i bobol fforddio trwsio’r difrod i’w cartrefi.

Yn ôl dogfennau sydd wedi dod i’r fei ers y ffrwydrad, roedd swyddogion wedi cael rhybuddion dro ar ôl tro y gallai ffrwydrad ddigwydd, gyda chemegion yn achosi cryn berygl ar y safle.

Mae swyddogion yn rhoi’r bai ar ei gilydd, ac mae 19 o bobol wedi bod yn y ddalfa.