Mae gwefan dwristiaeth Mecsico dan y lach am greu cyfieithiadau ofnadwy – gan gynnwys cyfieithu enwau sawl talaith.

Cafodd Hidalgo a Guerrero eu troi’n ‘Noble’ a ‘Warrior’ gan beiriant cyfieithu ar dudalennau Saesneg y wefan.

Cafodd Tulum ei droi’n ‘Jumpsuit’, tra bod Bacalar ar arfordir y Caribî wedi cael ei symud yn gyfangwbl i dalaith Tabasco ben arall y wlad.

Daeth Puerto Escondido yn ‘Hidden Port’ a Torreon yn ‘Turret’, yn ogystal ag Aculco yn dod yn ‘I Blame’ a ‘Ciudad Madero’ yn dod yn Log.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi cyngor i bobol beidio â theithio i Mecsico yn sgil y coronafeirws.

Oriau cyn y gwallau ar y wefan, fe fu’n rhaid i Acapulco dynnu hysbysebion twristiaeth yn cynghori pobol fod “unrhyw beth yn dderbyniol”, gan ddangos pobol mewn parti heb eu bod nhw’n gwisgo mygydau.

“Stopiwch wneud i Fecsico edrych yn chwerthinllyd!” meddai’r cyn-Arlywydd Felipe Calderon wrth ymateb ar Twitter.

Ymddiheuriad

Mae adran dwristiaeth Mecsico wedi ymddiheuro, gan ddweud bod “y gweithredoedd yn anelu i niweidio delwedd y wefan a’r adran”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi cwyno am “drosedd” ac y bydd “camau cyfreithiol priodol” yn cael eu cymryd.

Un eglurhad posib yw fod darparwr gwasanaethau’r wefan yn grac nad ydyn nhw wedi cael eu talu.