Mae John Swinney, Ysgrifennydd Addysg yr Alban, dan bwysau i ymddiswyddo ac mae’n wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn sgil helynt canlyniadau arholiadau.

Mae Llafur yr Alban yn paratoi i gyflwyno cynnig ar ôl iddi ddod i’r amlwg y gallai rhai disgyblion nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn flaenoriaeth orfod aros tan fis Mai y flwyddyn nesaf i glywed canlyniadau eu hapêl.

Mae Llywodraeth yr Alban dan y lach tros system raddio yn hytrach nag arholiadau, sydd wedi’u canslo yn sgil y coronafeirws.

Cafodd 26.2% o ganlyniadau eu haddasu yn sgil y drefn newydd, a hynny’n seiliedig ar berfformiad disgyblion yn y gorffennol.

Fel rhan o’r broses honno, cafodd 124,564 o ddisgyblion ganlyniadau is nag y bydden nhw wedi’u cael.

Daeth cannoedd o ddisgyblion ynghyd yn Glasgow ddoe (dydd Gwener, Awst 7) i brotestio yn erbyn y drefn.

Amddiffyn y penderfyniad

Wrth amddiffyn y drefn newydd, dywed John Swinney fod y broses yn fater o “gymedroli ystadegau mewn egwyddor”.

Mae’n dweud na fyddai canlyniadau wedi bod yn “gredadwy” pe bai’r gyfradd basio wedi codi o 19.8% yn unol ag amcangyfrifon athrawon cyn cymedroli.

Mae Nicola Sturgeon a John Swinney, prif weinidog a dirprwy brif weinidog yr Alban, ill dau wedi amddiffyn y broses gan ddweud bod yna broses apelio pe bai canlyniadau’n cael eu hisraddio.

Ond mae Llafur yr Alban wedi cyhoeddi llun sy’n awgrymu y gallai disgyblion orfod aros naw mis i’r broses fynd rhagddi os nad ydyn nhw wedi gwneud cais i fynd i’r brifysgol.

Mae Awdurdod Cymwysterau’r Alban yn dweud mai “dyddiad di-ystyr” yw’r naw mis, ac mae wedi cael ei ddileu oddi ar eu gwefan erbyn hyn.

Diffyg hyder

Mae Llafur yr Alban yn dadlau bod John Swinney wedi colli cefnogaeth sefydliadau addysg erbyn hyn.

Rhaid i gynnig o ddiffyg hyder gael cefnogaeth 25 o aelodau seneddol er mwyn cael ei gyflwyno a’i drafod ac er mwyn cynnal pleidlais.

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr gefnogi’r cynnig, gan ddweud nad yw’r “cyhoedd bellach yn ymddiried ynddo”.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod nhw’n barod i glywed barn John Swinney cyn penderfynu a fyddan nhw’n cefnogi’r cynnig o ddiffyg hyder.

Mae’r Blaid Werdd yn dweud bod y sefyllfa’n “annerbyniol”.

  • Bydd myfyrwyr Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yng Nghymru’n derbyn eu canlyniadau ar Awst 20, tra bydd myfyrwyr TGAU yn eu derbyn ar Awst 13.