Mae penaethiaid amddiffyn yn ystyried cais gan y Swyddfa Gartref i alw’r lluoedd arfog i mewn i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol sy’n deillio o ffoaduriaid yn ceisio croesi’r Sianel.

Mae Llywodraeth Prydain dan bwysau i fynd i’r afael â’r sefyllfa ar yr arfordir oddi ar Dover, gyda niferoedd uwch nag o’r blaen yn ceisio cyrraedd gwledydd Prydain o’r cyfandir.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel eisoes wedi dweud y byddai hi’n ceisio atal llwybrau ffoaduriaid i mewn, ond fod yna oblygiadau “deddfwriaethol, cyfreithiol a gweithredol” wrth geisio gwneud hynny.

Mae gweinidogion wedi cael eu rhybuddio am berygl ceisio atal llongau a chychod rhag iddyn nhw suddo yn y môr.

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn mewn datganiad eu bod nhw’n barod i helpu pe bai angen, ond mae Press Association yn dyfynnu ffynhonnell sy’n dweud y byddai galw arnyn nhw i helpu’n “wallgof” ac nad ydyn nhw’n “ymdrin â methiannau gwleidyddol”.